Triniaethau arbennig: aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio
Yn unol â’r gyfraith, mae'n rhaid bod gennych drwydded i wneud y canlynol:
- aciwbigo
- tatŵio
- tyllu'r corff (gan gynnwys y glust)
- electrolysis
Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded triniaethau arbennig ei hun a fydd yn cadarnhau'r driniaeth/triniaethau y mae wedi'i drwyddedu'n bersonol i’w cyflawni.
Rhaid i bob mangre neu gerbyd busnes triniaethau arbennig gael tystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun.
Deddf lechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Rhan 4 (Triniaethau Arbennig): Gwybodaeth am Gynnydd Gweithredu
Amodau Gorfodol
Amodau Gorfodol – Trwydded Gweithdrefnau Arbennig
Amodau Gorfodol – Tystysgrif Cymeradwyo Eiddo
Cais
Cais am Drwydded Triniaethau Arbenning (Ymarferwyr Unigol)
Cais am Dystysgrif Cymeradwyo (Safle neu Gerbyd)
Ffioedd cofrestru
Cyflwyno Cais
Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch cais, e-bostiwch eich cais ynghyd â'r holl ddogfennau ychwanegol sydd eu hangen i licensing@bridgend.gov.uk.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, gallwn eich ffonio i gymryd taliad dros y ffôn a rhoi gwybod am y camau nesaf.