Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tatŵio, tyllu cosmetig, electrolysis ac aciwbigo

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gofrestru’r gweithgareddau canlynol gyda ni:

  • aciwbigo
  • tatŵio
  • tyllu clustiau
  • electrolysis

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestru’r ymarferydd a’r safle.

Is-ddeddfau y mae rhaid cydymffurfio â nhw

Mae’r is-ddeddfau’n ymdrin â:

  • glendid y safle a’r gosodiadau
  • glendid y bobl
  • dull glanhau a sterileiddio offer a deunyddiau

Rhaid arddangos copi o’r dystysgrif gofrestru a’r is-ddeddfau perthnasol ar y safle. Gallwch gael golwg ar yr is-ddeddfau perthnasol isod:

Ffioedd cofrestru

Codir tâl am gofrestru eich busnes a’ch safle am y tro cyntaf.

Codau ymarfer

Gallwch gael golwg ar y codau ymarfer drwy ddilyn y dolenni hyn:

Cysylltu ag adran Gwarchod y Cyhoedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Gwarchod y Cyhoedd.

Cyswllt

Adran Gwarchod y Cyhoedd

Ffôn: 01656 643643

Gallwch ddarllen mwy am hyn ar wefan y Gwasanaethau Rheoliadol A Rennir.

Chwilio A i Y