Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Polisi Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis

Polisi Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat
Crynodeb

1. Mae amodau trwydded y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw addasiadau i'r cerbyd gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod trwyddedu. Os yw gyrrwr/gweithredwr am osod sgrin dros dro, dylent ddilyn y Weithdrefn Gymeradwyo isod.

2. Cyfrifoldeb y gyrrwr/gweithredwr yw sicrhau bod y ddyfais a osodir yn cydymffurfio â rheoliadau'r Llywodraeth a'r diwydiant, ei bod yn addas i'r diben ac nad yw'n peryglu diogelwch y cyhoedd.

3. Mae angen glanhau sgriniau'n rheolaidd a'u cynnal a'u cadw'n briodol.

4. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i fynnu cael gwared ar unrhyw sgriniau os oes pryderon ynghylch eu diogelwch, addasrwydd i'r diben neu gydymffurfiad â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Cyflwyniad

5. Oherwydd pandemig y Coronafeirws, rydym wedi derbyn ymholiadau yn ddiweddar gan yrwyr ynghylch gosod sgriniau diogelwch yn eu cerbydau rhwng y seddi ffrynt a'r seddi cefn.

6. Mae rhaniadau neu sgriniau diogelwch yn creu rhwystr corfforol rhwng gyrwyr a theithwyr yn y cerbyd. Fel arfer, fe'u gosodir fel nodwedd ddiogelwch i amddiffyn y gyrrwr rhag ymosodiadau corfforol neu ladrad. Mae cynnydd wedi bod o ran diddordeb yn y defnydd o sgriniau fel ffordd o alluogi gwahaniad corfforol rhwng gyrwyr a theithwyr er mwyn lleihau trosglwyddiad Covid-19.

7. Nid oes tystiolaeth sy'n dangos bod rhaniadau mewn tacsis neu gerbydau hurio preifat yn lleihau'r risg o drosglwyddo haint Covid-19. Nid yw rhaniadau mewn tacsis na cherbydau hurio preifat yn darparu gofod wedi'i selio'n llawn sy'n gwahanu'r gyrrwr yn llwyr oddi wrth y teithiwr. Felly, er ei bod yn bosibl y gallai rhaniadau leihau'r risg o drosglwyddo haint, ni fyddai'r risg yn cael ei dileu'n gyfan gwbl.

8. Mae'r Tîm Trwyddedu’n gwerthfawrogi bod unrhyw beth sy'n helpu i ddiogelu gyrwyr a theithwyr rhag lledaenu’r coronafeirws yn rhywbeth i'w groesawu, ond mae'n bwysig ei bod yn ddiogel gosod unrhyw offer ychwanegol ac nad yw'n cyflwyno peryglon diogelwch newydd ac anfwriadol.

9. Ar ôl cynnal profion diogelwch cynhwysfawr, mae cerbydau’n derbyn Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan Ewrop, a gall newid neu ychwanegu at y tu mewn i'r cerbyd newid 'cymeradwyaeth math' y cerbyd. Yn ogystal, gallai unedau sydd wedi'u gosod yn wael ac sydd wedi'u hadeiladu mewn modd anaddas, neu gynhyrchion a wnaed gan ddefnyddio deunyddiau anniogel, gael effaith drychinebus pe bai’r cerbyd mewn damwain ffordd.

10. Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod yna gwmnïau sy’n hysbysebu gosodiadau 'sydd wedi cael asesiad risg llawn', nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol. Dylai gyrwyr hefyd fod yn ymwybodol y gallai gosod sgriniau hefyd effeithio ar allu'r cerbyd i basio MOT, megis lle maent yn cyfyngu ar symudiad y seddi ffrynt. Cynghorir gyrwyr i gael cadarnhad annibynnol gan wneuthurwr y cerbyd, MIRA (neu gorff cyffelyb) a'u hyswiriwr cyn ysgwyddo'r gost o osod sgrin nad yw efallai’n cydymffurfio ac a allai fod yn anniogel.

11. Mae amodau trwydded y Cyngor yn nodi’r canlynol:
"Dylai unrhyw addasiad yn nyluniad y cerbyd o ran y peirianwaith neu'r corff gael ei adrodd i'r Cyngor a all ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gyflwyno'r cerbyd i'w archwilio ymhellach."

12. Am y rhesymau hyn, cyn gosod unrhyw ddyfais sgrinio yn eich cerbyd yn wirfoddol, mae'n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth i osod sgrin dros dro gan ddilyn y weithdrefn isod.

Gofynion cyffredinol

13. Y gyrrwr, y perchennog a/neu'r gweithredwr ddylai wneud y penderfyniad i osod sgrin ddiogelwch ar ôl cynnal eich asesiad risg eich hun. Oherwydd yr amrywiaeth eang ac amrywiol o gerbydau a’r gwahanol fathau o sgriniau rhaniad diogelwch sydd ar gael, nid oes modd cynnig cyngor penodol mewn perthynas â phrynu neu osod y dyfeisiau hyn, ond mae angen bodloni'r gofynion sylfaenol canlynol:

a. Rhaid i'r ddyfais fod wedi'i hadeiladu'n bwrpasol i'w defnyddio fel sgrin ddiogelwch o fewn cerbyd a rhaid iddi fod yn addas ar gyfer gwneuthuriad a model penodol y cerbyd.

b. Ni ddylai fynd o amgylch sedd y gyrrwr a chreu rhaniad rhwng y ddwy sedd flaen, yn ogystal â rhwng y blaen a’r cefn.

c. Ni ddylai gosodiad a / neu ddyluniad y ddyfais achosi amhariad neu ddylanwad niweidiol ar gryfder strwythurol neu systemau diogelwch y gyrrwr a’r teithiwr (gan gynnwys bagiau awyr) yn y cerbyd. Yn benodol, ni ddylai'r gosodiad:

i. Roi teithwyr a/neu'r gyrrwr mewn unrhyw berygl ychwanegol yn ystod gwrthdrawiad a/neu pan fo’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio fel arfer fel tacsi neu gerbyd hurio preifat.

ii. Ymyrryd â’r gallu i weithio’r cerbyd a/neu nodweddion diogelwch y cerbyd yn ddiogel ar unrhyw adeg.

iii. Rhwystro nac ymyrryd â golwg y gyrrwr a/neu deithwyr mewn unrhyw ffordd.

d. Rhaid i sgriniau gael eu gosod yn broffesiynol ac yn ddiogel a chael eu cynnal a’u cadw’n unol â manylebau ac argymhellion y gwneuthurwr.

e. Ni ddylai’r dyfeisiau fod â chrafiadau, afloywder neu sticeri a fyddai'n rhwystro gwelededd y gyrwyr neu'r teithwyr.

f. Ni ddylai sgriniau amharu ar symudiad y gyrrwr na'i allu i gyfathrebu â theithwyr.

g. Ni ddylai sgriniau rwystro gyrwyr na theithwyr rhag mynd i mewn neu allan o'r cerbyd na pheri iddynt faglu.

14. Os ydych wedi gosod sgrin ddiogelwch yn eich cerbyd, rhaid i chi lanhau'r sgrin ar ôl pob taith gyda theithwyr, gan ddefnyddio diheintydd cartref arferol.

15. Rhaid i’r perchennog sicrhau bod y sgrin ddiogelwch yn cael ei chynnal a'i chadw'n briodol ac yn rheolaidd, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr gan berson sydd wedi’i gymhwyso’n addas. Rhaid i gofnodion ysgrifenedig o'r holl waith cynnal a chadw a gwasanaethu gael eu gwneud a'u cadw gan y perchennog am o leiaf 12 mis. Rhaid i gofnodion ysgrifenedig o'r fath fod ar gael ar gais gan swyddog awdurdodedig o'r Cyngor, neu gan un o swyddogion yr heddlu.

Gweithdrefn Gymeradwyo

16. Os ydych yn dymuno gosod sgrin ddiogelwch, bydd angen i chi wneud cais i'r Cyngor at licensing@bridgend.gov.uk gan gadarnhau’r canlynol:

a. Y bydd y gwaith gosod yn cael ei wneud yn unol â gofynion y polisi hwn.

b. Y bydd eich polisi yswiriant yn dal i fod yn ddilys os ydych chi'n gosod y sgrin ddiogelwch.

c. Bod y sgrin a gaiff ei gosod yn cydymffurfio â rheoliadau'r Llywodraeth a'r diwydiant, ac na fydd yn peryglu diogelwch y cerbyd a’i bod wedi’i chymeradwyo gan MIRA (neu gorff cyffelyb) i'w defnyddio yn y DU (os yw'n berthnasol).

d. Eich bod yn cytuno i gael gwared ar y sgrin ddiogelwch mewn llai na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae Llywodraeth Cymru yn datgan yn swyddogol bod y cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol presennol sy'n ymwneud â Covid-19 yn dod i ben.

17. Ar ôl i'r Awdurdod benderfynu ei fod yn fodlon bod y gosodiad arfaethedig yn bodloni'r meini prawf uchod, bydd hawl gennych i osod sgrin ddiogelwch yn eich cerbyd.

18. Ar ôl i'r rhaniad neu'r sgrin gael ei osod, rhaid i berchennog y cerbyd e-bostio'r Adran Drwyddedu gan ddarparu’r canlynol:
a. Ardystiad gan y gosodwr neu dystiolaeth arall i brofi bod y gosodiad yn:

i. Cydymffurfio â rheoliadau'r Llywodraeth a'r diwydiant, er enghraifft y Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnyddio) a deddfwriaeth berthnasol y DU a'r Gymuned Ewropeaidd (CE) a deddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelwch;

ii. Cydymffurfio â safon berthnasol y CU ECE/yr UE ar gyfer prawf cymeradwyo math offer gwreiddiol sy’n cwmpasu ffitiadau mewnol. Dylai unrhyw sgrin sydd wedi'i osod ar y cerbyd mewn modd sy’n golygu y gallai effeithio ar gryfder strwythurol y cerbyd neu weithrediad diogel System Atal Atodol (bagiau aer) y cerbyd gael ei chymeradwyo gan MIRA, Millbrook neu sefydliad peirianyddol, profi, ymgynghori ac ardystio cynnyrch annibynnol tebyg arall.

b. Ffotograff(au) o'r rhaniad neu'r sgrin wedi'i gosod yn y cerbyd.

c. Copi o e-bost perchennog/gweithredwr y cerbyd at y cwmni yswiriant a chydnabyddiaeth y cwmni yswiriant bod y polisi yswiriant yn parhau i fod yn ddilys.

19. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i fynnu cael prawf/ardystiad ychwanegol, neu i'r sgrin gael ei thynnu os nad yw'n fodlon ei bod yn ddiogel, yn addas i'r diben ac yn cydymffurfio'n gyfreithiol.

Chwilio A i Y