Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trosglwyddo Asedau Cymunedol Chwaraeon Rest Bay

Cafodd Rest Bay Sports ei ffurfio yn 2018 i reoli, gwella, ehangu a chynnal a chadw’r cyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned leol. Mae Rest Bay Sports yn cynrychioli FC Porthcawl a Porthcawl United.

Cafodd Porthcawl United ei ffurfio yn 2000 gan Tony a Helen Morgan. Cafodd ei sefydlu a’i redeg yn wreiddiol fel clwb pêl-droed cymunedol i’r oedran iau (12 i 16 oed) a’r oedran ‘mini’ (5 i 11 oed), gan gynnig hyfforddiant proffesiynol i fechgyn a merched.

Cafodd FC Porthcawl ei sefydlu yn 2016 ac mae’n chwarae yng Nghynghrair Port Talbot a’r Cylch.

Mae meysydd chwarae a phafiliwn Rest Bay wedi bod yn gartref i lawer o selogion chwaraeon dros y 38 mlynedd diwethaf. Yn 2018, roedd y meysydd yn cael eu defnyddio i chwarae pêl-droed a rygbi yn bennaf, ond roedd taer angen adnewyddu a moderneiddio’r cyfleusterau i gyrraedd safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac i ddiwallu anghenion y gymuned.

Nod Rest Bay Sports oedd darparu ased cymunedol, cynhwysol o’r enw “y ganolfan”. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ychydig dros £45,000 tuag at y gost o ailddatblygu’r pafiliwn, yn ogystal â £10,000 i gynnal a chadw’r cae, a hynny o gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol gwerth £1m y Cyngor. Roedd cyfanswm cost y gwaith dros £80k a chafodd y sefydliad gyllid gan ffynonellau eraill er mwyn gwireddu ei weledigaeth.

Cafodd llawr cyntaf y pafiliwn ei ymestyn a’i adnewyddu, gan ddarparu balconi sy’n edrych dros y cae. Bydd y pafiliwn yn ganolfan gymunedol, gan alluogi pobl o’r ardal leol a thu hwnt i ddod ynghyd.

Chwilio A i Y