Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Wedi’i sefydlu yn 2008, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel llais casgliadol i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n cynrychioli cwmnïau o bob maint ac ar draws bob sector ac yn ymateb i faterion a datblygiadau lleol sy’n effeithio ar fentrau ar lefel leol.
Ar hyn o bryd mae gan y fforwm fwy na 900 o aelodau. Mae’n darparu’r canlynol i’w aelodau:
- llais casgliadol
- cyfleoedd rhagorol i rwydweithio a rhannu arfer gorau
- rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau busnes
- cyrsiau hyfforddi gan gynnwys y gwobrau busnes blynyddol anrhydeddus
- cyfleoedd nawdd
Dod yn aelod
Gallwch ddod yn aelod os ydych yn gweithredu mewn marchnad fasnachol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r aelodaeth o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am ddim.
Digwyddiadau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gennym ni raglen lawn a bywiog o ddigwyddiadau busnes cyffrous ac arloesol yn barod ar gyfer 2019.
Mae’r digwyddiadau i gyd am ddim i’w mynychu oni bai y nodir fel arall. Archebu ymlaen llaw yn hanfodol.