Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa Adfywio Arbennig

Mae’r Gronfa Adfywio Arbennig yn sicrhau dull "dan arweiniad y cwsmer" o ran cyfleoedd ariannu i fusnesau bach a chanolig. Mae ar gael i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes sydd wedi ymgartrefu, neu sy’n bwriadu ymgartrefu, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen i fusnesau ddangos bod cyfran sylweddol o’u gweithgarwch yn wasanaeth ‘busnes i fusnes’. Ni fydd cyllid ar gael i’r sector manwerthu a’r gwasanaethau sy’n gweithredu mewn marchnad gwbl leol. Fodd bynnag, gellir ystyried sectorau eraill fel twristiaeth.

Beth mae’r gronfa yn ei gynnwys

Mae’r gronfa yn cynnig hyd at 40% o gymorth grant ar gyfer costau prosiect a gymeradwywyd hyd at uchafswm o £5,000. Y swm lleiaf y gellir ei roi ar gyfer grant fydd £1,000. Gallai’r prosiectau a ystyrir o dan y cynllun gynnwys:

  • buddsoddiad mewn cyfarpar cyfalaf
  • meddalwedd arbenigol
  • dylunio gwefan
  • adnewyddu adeiladau diwydiannol

Sut i wneud cais

Ar ôl i’ch ffurflen mynegi diddordeb gael ei chymeradwyo, bydd ceisiadau am arian yn cael eu hasesu yn erbyn cyfres o feini prawf.

Bydd yn ofynnol i bob busnes gyflwyno ffurflen gais a chynllun busnes. Bydd angen i fusnesau newydd hefyd ddarparu o leiaf 12 mis o dystiolaeth o lif arian parod a rhagolygon elw a cholled. Bydd angen i gwmnïau sy’n bodoli eisoes ddarparu o leiaf dwy flynedd o dystiolaeth o gyfrifon ardystiedig hanesyddol. Fel arall, gallant gyflwyno’r cyfrifon rheoli diweddaraf os yw’r cyfrifon ardystiedig dros chwe mis oed.

Nid oes modd dyfarnu'r grant wrth edrych yn ôl, felly peidiwch â mynd i gostau cyn i’r grant gael ei ddyfarnu i chi.

I wneud cais am grant, cysylltwch â:

Cyswllt

Cronfa Adfywio Arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815334

Chwilio A i Y