Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arwyddion traffig ar gyfer cyrchfannau twristiaid

Mae arwyddion i dwristiaid yn arwyddion brown nodedig gyda thestun gwyn sy'n cael eu defnyddio i gyfeirio gyrwyr i gyrchfan dwristaidd yn nes at ddiwedd eu taith.

Mae cyrchfan i dwristiaid yn golygu atyniad neu gyfleuster sydd wedi'i sefydlu'n barhaol:

  • i ddenu neu i gael ei ddefnyddio gan ymwelwyr ag ardal
  • sy’n agored i'r cyhoedd heb archebu ymlaen llaw yn ystod ei oriau agor arferol

Mae atyniadau i dwristiaid yn fannau o ddiddordeb sy'n agored i'r cyhoedd, ac sy'n cynnig adloniant, addysg neu ddiddordeb hanesyddol. Dyma enghreifftiau o’r atyniadau:

  • amgueddfeydd a chanolfannau ymwelwyr
  • parciau a gerddi
  • atyniadau naturiol fel gwarchodfeydd natur a thraethau
  • cyrsiau golff
  • cestyll ac adeiladau hanesyddol
  • theatrau, sinemâu a lleoliadau cyngherddau

Mae enghreifftiau o gyfleusterau twristiaeth yn cynnwys:

  • gwestai
  • gwestai bach
  • llety gwely a brecwast
  • tai bwyta
  • parciau gwyliau
  • parciau carafanau teithiol a gwersylla
  • safleoedd picnic
  • hosteli ieuenctid
  • canolfannau gwybodaeth i ymwelwyr

Dylai atyniadau a chyfleusterau fod â nodweddion ar gyfer twristiaid a rhaid iddynt fod ar gael i'r cyhoedd heb archebu ymlaen llaw yn ystod oriau agor arferol. Y rheswm am hyn yw bod twristiaid yn disgwyl gweld atyniad sydd ag arwydd ar agor ar oriau ac adegau rhesymol o'r flwyddyn.

Fel arfer, bydd disgwyl i atyniadau a chyfleusterau fod â digon o leoedd parcio ar y safle. Os oes cyfleusterau parcio oddi ar y safle ar gael fel dewis amgen i gyfleusterau penodol, dylai'r ymgeisydd gael caniatâd a chofnod ysgrifenedig gan berchennog/perchnogion perthnasol y tir.

Nid yw cymhwysedd yn golygu hawl awtomatig i gael arwyddion i dwristiaid. Rhaid ystyried sawl elfen arall, gan gynnwys y ddarpariaeth bresennol o arwyddion, a oes lle ar gyfer arwyddion newydd, a diogelwch ar y ffyrdd. Yr awdurdod priffyrdd sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch darparu arwydd twristiaeth brown.

Costau

Nid oes unrhyw gost am wneud ymholiad am arwyddion i dwristiaid. Os ydych yn gymwys ac yn fodlon bwrw ymlaen yn seiliedig ar amcangyfrif o’r costau, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr dalu am yr arwyddion a'u gosod.

Caiff ymgeiswyr eu synnu'n aml faint y mae arwyddion traffig yn ei gostio, gan nad ydynt yn ymwybodol o'r holl waith sydd ynghlwm â’u cynhyrchu a'u gosod. Mae dadansoddiad syml o'r camau y mae’n rhaid eu dilyn i roi arwydd o fewn ffin y briffordd fel a ganlyn:

  • dylunio’r arwydd
  • asesiadau risg a diogelwch ffyrdd
  • cynhyrchu’r arwydd
  • ymchwiliad safle
  • rheoli traffig, fel conau
  • sylfeini
  • pyst
  • gosod yr arwydd
  • ffensys diogelwch, os oes angen

Bydd y costau hefyd yn dibynnu ar natur y ffordd lle bydd yr arwyddion yn cael eu gosod a’u pellter at y gyrchfan. Mae angen arwyddion mwy ar ffyrdd cyflymder uwch fel ffyrdd deuol. Bydd angen mwy o arwyddion y pellaf yw’r gyrchfan oddi wrth y ffordd A agosaf.

Mae’r costau cychwynnol dangosol ar gyfer arwyddion ar lôn gerbydau sengl yn dechrau o £1000 fesul arwydd. Gall arwyddion ar draffordd gostio cymaint â £100,000.

Anfonwch ymholiadau at tourism@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y