Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhentu garej neu ofod parcio

Rydym yn berchen ar garejys a gofod parcio ledled y fwrdeistref sirol a gallwch eu rhentu i gadw cerbydau. Ni allwch rentu garejys i storio dodrefn, offer gardd nac i’w defnyddio fel gweithdy, oherwydd gall anwedd wneud difrod iddynt.

Ceisiadau am garejys neu ofod parcio

Rhaid anfon ceisiadau yn ysgrifenedig. Anfonwch eich cais i’r manylion isod:

Cyswllt

Tîm Masnachol, Landlord Corfforaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642700
Cyfeiriad: Ravens Court, Lôn y Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AP.

Rhif Ffacs: 01656 642432

Lleoliad y garejys neu’r canolfannau

Mae dau safle gyda garejys pwrpasol ym Mlaengarw. Rydym yn berchen ar garejys y safleoedd hyn ac yn eu rhentu allan ar denantiaeth fisol. Maent ar:

  • Stryd David
  • Stryd Brenin Edward

Garejys rhent tir

Rydym yn rhentu gofod lle mae pobl yn adeiladu ac yn cynnal a chadw eu garejys eu hunain. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn agos at ddechrau’r dudalen am fwy o wybodaeth.

Terfynu eich tenantiaeth mewn garej neu ofod parcio

Rhowch fis o rybudd ysgrifenedig os gwelwch yn dda, yn nodi’r dyddiad pryd rydych chi am i’ch tenantiaeth ddod i ben. Ni ellir trosglwyddo tenantiaeth i unrhyw un arall pan mae’n dod i ben.

Cyn derbyn y terfynu, rhaid talu unrhyw ôl-ddyledion. Os byddwch yn hwyr yn talu eich rhent ar unrhyw adeg, efallai y byddwn yn cyflwyno ‘Hysbysiad i Adael’ a bydd rhaid i chi dalu’r ddyled sy’n sefyll. Rhaid i chi adael y garej neu’r gofod mewn cyflwr derbyniol.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt yn agos at dop y dudalen.

Chwilio A i Y