Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa Cadernid Economaidd

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gau ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pecyn pellach o gymorth busnes ar gael trwy'r Gronfa Gwydnwch Economaidd (ERF). Bydd yr ERF yn darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus ar Covid-19.

Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021 a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau oedd ar waith o ddechrau'r cyfnod.

Yn benodol, bydd yr ERF yn cefnogi busnesau sydd un ai:

  • categori a) - gorfod aros ar gau neu fethu â masnachu drwy gyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021
  • categori b) - atyniadau a man digwyddiad unigryw sy'n cael eu heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau cadw pellter cymdeithasol parhaus
  • categori c) - busnesau eraill sydd â mwy na 60 y cant o effaith ar Drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nid oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021
  • categori d) - Busnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60 y cantneu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c)

ac (yn berthnasol i bawb):

Wedi profi effaith negyddol sylweddol drwy lai o drosiant o 60% neu fwy ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus Covid-19.

Nodiadau canllaw'r Gronfa Gwytnwch Economaidd (.PDF 425KB)

Chwilio A i Y