Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Community Renewal Fund webinar video transcript WELSH

Prynhawn da, fy enw i yw Lisa Jones a chroeso i'n gweminar a fydd, gobeithio, yn rhoi cyflwyniad i chi i Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, a'r broses ymgeisio.

Plîs cadwch eich meics wedi’u mudo ac ymatal rhag codi dwylo.  Rydym yn croesawu cwestiynau drwy'r bocs sgwrsio yn Gymraeg a Saesneg.  Bydd y rhain yn cael eu hateb fel rhan o ddogfen Cwestiynau Cyffredin a fydd ar gael ar ein gwefan ni ac a gaiff ei dosbarthu i holl gyfranogwyr y weminar hon.

Mae'r ddolen i'n tudalen we wedi'i phostio yn y bocs sgwrsio ynghyd â nodyn atgoffa o'n cyfeiriad e-bost. Dylai'r cyfeiriad e-bost hwn gael ei ddefnyddio gan bob sefydliad ar gyfer pob gohebiaeth ymlaen llaw mewn perthynas â'r gronfa hon.

Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau uniongyrchol gyda darpar ymgeiswyr a bydd yr atebion i'r holl gwestiynau a dderbynnir yn cael eu rhannu ar ein tudalen we.

Ar 3ydd Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chronfa Adnewyddu Cymunedol, i helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant a Rennir y DU, a fydd yn cael ei lansio yn 2022.  Er y bydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn sail i Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, dylech nodi y bydd yr arian yn wahanol o ran cynllun, cymhwysedd a hyd.

Bydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn darparu £220 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod 2021 i gefnogi pobl a chymunedau sydd mewn angen mwyaf ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau gweithredu newydd, gan gefnogi ymatebion arloesol i heriau lleol.

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod wedi ymrwymo i gae chwarae teg ledled y Deyrnas Unedig gyfan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl.

I ni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd y gronfa hefyd yn cyflwyno ffordd newydd o weithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio gweithio'n fwy uniongyrchol gyda phartneriaid a chymunedau lleol ledled Cymru.

Mae pob lle ledled y DU yn gymwys i gael arian drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU drwy broses gystadleuol heb unrhyw gymhwysedd wedi’i bennu ymlaen llaw.  Yng Nghymru, bydd awdurdodau lleol yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer eu hardal.

Mae awdurdodau arweiniol yn gyfrifol am wahodd cynigion prosiect gan amrywiaeth o ymgeiswyr lleol a gofynnir iddynt werthuso’r ceisiadau a dderbynnir a llunio rhestr fer wedi'i blaenoriaethu o brosiectau ar gyfer pob lle, hyd at uchafswm o £3 miliwn y lle. Bydd y rhestr hon yn cael ei chyflwyno wedyn i Lywodraeth y DU i'w hasesu a'i chymeradwyo, erbyn hanner dydd ar 18 Mehefin 2021. Cyhoeddir manylion llawn cyfrifoldebau'r awdurdod arweiniol, y broses asesu a'r holl waith papur ar wefan Llywodraeth y DU ac mae dolenni ar gael drwy ein gwefan ni.

O ran y gwerth mwyaf o £3 miliwn y lle, hoffwn bwysleisio nad dyraniad cyllid yw hwn, gofynnir i Awdurdodau Arweiniol gyflwyno rhestr fer wedi'i blaenoriaethu o brosiectau, i'w hystyried yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, hyd at yr uchafswm hwnnw.  Llywodraeth y DU sy'n gwneud pob penderfyniad cyllido.

Sylwer y gall Awdurdodau Arweiniol ddefnyddio cyfradd wastad o 2% o werth Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU i gael ei gwario gan bob prosiect ar gyfer y costau sy’n codi wrth reoli dyfarniadau'r Gronfa. Mae'r swm hwn yn rhan o gyfanswm y dyfarniad o hyd at £3 miliwn y lle.

Mae 4 blaenoriaeth buddsoddi wedi'u nodi ar gyfer Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU:

  • Buddsoddi mewn sgiliau

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith, ailhyfforddi, uwchsgilio neu ailsgilio aelodau'r gweithlu neu hyrwyddo datblygiad sgiliau a chynhwysiant digidol.

  • Buddsoddiad ar gyfer busnesau lleol

Mae enghreifftiau o fuddsoddi ar gyfer busnesau lleol yn cynnwys helpu i greu mwy o gyfleoedd gwaith i weithwyr presennol neu newydd, annog busnesau i ddatblygu eu potensial arloesi a chefnogi mesurau datgarboneiddio.

  • Buddsoddi mewn cymunedau a lle

Gallai hyn gynnwys astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cyflwyno prosiectau ynni net-sero a lleol, archwilio cyfleoedd i hyrwyddo adfywio a datblygu cymunedol a arweinir gan ddiwylliant, gwella mannau gwyrdd a gwarchod asedau lleol pwysig neu hyrwyddo cysylltedd gwledig.

  • Cefnogi pobl i gyflogaeth

Gallai hyn gynnwys helpu unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal hon, adnabod a mynd i'r afael â rhwystrau posibl i gyflogaeth, gwella dyheadau swyddi, cymorth i ennill sgiliau sylfaenol neu werthuso dulliau llwyddiannus o helpu pobl i ddychwelyd i gwaith.

Dim ond rhai enghreifftiau o weithgarwch posibl rwyf wedi'u darparu yma ond rwyf am bwysleisio nad ydynt yn rhagnodol, byddwn yn eich annog i ddarllen prosbectws y gronfa i benderfynu a yw eich syniad yn ffitio.  Unwaith eto gellir dod o hyd i'r ddolen i'r prosbectws drwy ein tudalen we.

  

Rhai pwyntiau allweddol i'w nodi wrth ddatblygu eich cais:

  • Nid oes unrhyw neilltuo ar draws y themâu hyn, maent wedi'u pennu fel blaenoriaethau cyfartal;
  • Mae 90% o'r cyllid sydd ar gael yn gyllid refeniw, ni chefnogir prosiectau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar waith adeiladu neu adnewyddu sylweddol ar adeiladau, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer;
  • Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld cefnogi amrywiaeth o brosiectau yn ôl thema a maint, ond anogir ymgeiswyr i sicrhau'r effaith fwyaf posibl a'r gallu i gyflawni drwy brosiectau mwy (£500,000+) os yw hynny'n bosibl. Bydd prosiectau llai yn parhau i gael eu hystyried ac nid oes trothwy gofynnol;
  • Dim ond o'r pwynt cymeradwyo ymlaen y gellir creu gostau. Ni fydd costau ôl-weithredol yn cael eu talu;
  • Gall unrhyw sefydliad gyda chyfansoddiad cyfreithiol sy’n darparu gwasanaeth priodol wneud cais am gyllid. Ni ellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau sydd o fudd i un endid (er enghraifft un busnes) – rhaid cael tystiolaeth o effaith ehangach ar gyfer unigolion niferus, busnesau neu sefydliadau eraill;
  • Gall sefydliadau gyflwyno mwy nag un cais;
  • Bydd y ceisiadau llwyddiannus ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2021 i 2022, yn unig. Rhaid cwblhau'r holl ddarpariaeth a gwariant erbyn 31ain Mawrth 2022. Mae hyn yn golygu bod rhaid gwneud yr holl wariant erbyn y dyddiad hwn;
  • Dylech sicrhau bod eich prosiectau ar raddfa briodol a'ch bod yn ystyried yn ofalus eich cerrig milltir symudedd, darparu a chau o fewn yr amserlen honno. Gan y bydd y penderfyniadau cyllido'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU o ddiwedd mis Gorffennaf 2021 ymlaen, yn realistig byddwch yn datblygu ac yn cyflwyno cais am brosiect gydag amserlen o 6 i 8 mis ar y mwyaf a byddwch eisiau dangos yn glir bod posib cyflawni eich gweithgarwch arfaethedig yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Er bod Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn agored i bob ardal, mae Llywodraeth y DU wedi nodi 100 o leoedd blaenoriaeth yn seiliedig ar fynegai cydnerthedd economaidd. Mae'r mynegai hwn yn mesur cynhyrchiant, incwm aelwydydd, diweithdra, sgiliau a dwysedd poblogaeth. Mae nodyn methodoleg wedi'i gyhoeddi sy'n esbonio sut datblygwyd y mynegai cydnerthedd economaidd.  Ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen wedi'u nodi fel lleoedd blaenoriaeth a gellir dod o hyd i restr lawn o leoedd blaenoriaeth, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am fethodoleg Llywodraeth y DU, drwy'r dolenni ar ein tudalennau gwe.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd angen i geisiadau gan leoedd heb fod ar y rhestr flaenoriaeth sgorio o leiaf 80% yn erbyn pob un o'u meini prawf dethol – cyd-fynd yn strategol a’r gallu i gyflawni, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd i'w cynnwys ar eu rhestr fer yn y DU.

Fel awdurdod arweiniol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau sy'n ceisio cyflawni ar draws y fwrdeistref sirol, a bydd y cylch ceisiadau'n cau am 7am ddydd Llun 24ain Mai.

Dim ond prosiectau o ansawdd da fyddwn ni eisiau eu cyflwyno i Lywodraeth y DU i'w hystyried; ni fyddwn yn ceisio cyflwyno prosiectau hyd at y gwerth mwyaf posibl o £3 miliwn y lle.

Rhaid gwneud pob cais ar Ffurflen Gais Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, sydd ar gael drwy'r ddolen ar ein tudalen we, a rhaid ei chyflwyno i ni yn unig drwy'r cyfeiriad e-bost penodol, BridgendCRF@bridgend.gov.uk, yr un cyfeiriad e-bost ag a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y weminar hon. Ni dderbynnir ceisiadau a gyflwynir mewn unrhyw fformat arall na thrwy unrhyw ddull arall.

Wrth ddatblygu eich cais, yn ogystal ag ystyried y blaenoriaethau buddsoddi sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth y DU, rhaid i'ch gweithgarwch arfaethedig gyd-fynd â'r rhain. Byddem yn awgrymu hefyd eich bod yn ystyried sut mae eich cais yn gweddu yn erbyn y blaenoriaethau lleol a nodir yng Nghynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a'n Cynllun Corfforaethol, mae'r dolenni at y rhain ar gael ar ein tudalen we.

Byddwch eisiau dangos sut mae eich gweithgarwch arfaethedig yn ychwanegu gwerth at unrhyw ymyriadau sy'n bodoli eisoes ac yn cyd-fynd â hwy yn hytrach na dyblygu.  Efallai y byddwch eisiau nodi sut mae eich cais yn ystyried ac yn ymateb i'r heriau presennol mae'r fwrdeistref sirol yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig Covid19.

O ran Arian Cyfatebol, er bod hyn yn cael ei annog, nid yw'n orfodol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod yn annog ymgeiswyr i sicrhau eu bod yn denu cymaint â phosibl o gyllid arall gan y bydd hyn yn gwella’r addasrwydd ac yn cynyddu gwerth am arian.

Gellir defnyddio Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU i gyfateb i ffrydiau cyllido eraill y llywodraeth, lle caniateir hyn gan unrhyw reolau sy'n llywodraethu cyllid arall.

Mae Nodyn Technegol ar gyfer Ymgeiswyr a Darparwyr Prosiectau ar gael ar-lein a bydd disgwyl i bob ymgeisydd gymryd rhan mewn gweithgareddau monitro a gwerthuso fel y'u diffinnir yn y nodyn technegol.

Cyhoeddir canllawiau manwl pellach ar fonitro, gwerthuso a sicrwydd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Diolch i chi am ddod i'r weminar hon, gobeithio ei bod wedi bod yn fan cychwyn defnyddiol i chi.

Bydd yr holl gwestiynau a gyflwynir drwy'r swyddogaeth sgwrsio y prynhawn yma’n cael eu coladu a bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar ddogfen Cwestiynau Cyffredin a gyhoeddir ar ein gwefan ni a'i rhannu â'r holl gyfranogwyr.

Gellir cyflwyno cwestiynau pellach drwy ein cyfeiriad e-bost penodol BridgendCRF@bridgend.gov.uk ac eto bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn y Cwestiynau Cyffredin.

Cymerwch ofal i gyd a phob lwc gyda'ch ceisiadau.

Chwilio A i Y