Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

I gael gwybod mwy am y gronfa a’r broses ymgeisio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gallwch wylio Gweminar wedi’i recordio.

Trawsysgrif Gweminar CRF y DU ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Gweminar Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Bydd y weminar fer hon yn rhoi trosolwg o'r cyllid, y meini prawf cymhwysedd a'r broses ar gyfer gwneud cais i'r gronfa ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyhoeddodd y Llywodraeth fuddsoddiad o £220 miliwn yng Nghronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UKCRF) yn ei chyllideb ar 3 Mawrth 2021. Bydd y Gronfa yn cefnogi pobl a chymunedau sydd mewn angen mwyaf ledled y DU, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol. Dim ond ar gyfer y flwyddyn gyfredol y mae'r cyllid ar gael a bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cronfa Ffyniant a Rennir y Llywodraeth, a fydd yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf.

Er nad yw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i dynodi o fewn y 100 lle blaenoriaeth uchaf, gwahoddir ceisiadau o hyd at £3m ar gyfer yr ardal. Bydd UKCRF yn cael ei rheoli gan 'awdurdodau arweiniol'; Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.

Anogir cynigion prosiect o ardaloedd trefol a gwledig a dylent gyd-fynd â phedair thema a nodwyd, a gyda blaenoriaethau lleol:

  • buddsoddi mewn sgiliau
  • buddsoddi mewn busnesau lleol
  • buddsoddi mewn cymunedau a llefydd
  • cefnogi pobl i gael gwaith

Mae prosbectws y Llywodraeth yn nodi rhagor o fanylion am amcanion y gronfa, y mathau o brosiectau y mae'n bwriadu eu cefnogi a sut bydd yn gweithredu – Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU – Prosbectws

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau sy'n cefnogi'r themâu uchod ac yn unol â'n blaenoriaethau lleol fel y nodir yng Nghynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Cynllun Corfforaethol.

Dyddiadau Allweddol

  • 24 Mai: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyflwyniadau lleol
  • 18 Mehefin: Dyddiad cau i'r awdurdod arweiniol gyflwyno cais i'r Llywodraeth
  • Diwedd Gorffennaf - cadarnhau prosiectau llwyddiannus ar gyfer darparu
  • 31 Mawrth 2022: Dyddiad cwblhau darparu'r prosiect

Y Broses Ymgeisio

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am geisiadau gan sefydliadau sy'n dymuno darparu gweithgarwch fel rhan o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Darllenwch Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU – Prosbectws a Nodyn Technegol Cronfa Gymunedol y DU ar gyfer Ymgeiswyr a Darparwyr Prosiect cyn dechrau gweithio ar gais.

Mae'r Prosbectws yn rhoi gwybodaeth fanwl am amcanion y Gronfa, y mathau o brosiectau y mae'n bwriadu eu cefnogi a sut mae'n gweithredu, gan gynnwys y broses a’r meini prawf dethol a ddefnyddir i asesu ceisiadau.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Ni dderbynnir ceisiadau a gyflwynir mewn unrhyw fformat arall.

Rhaid cyflwyno ceisiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost hwn: bridgendcrf@bridgend.gov.uk

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 7am ar 24ain Mai 2021

Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau gyda chynigwyr, fodd bynnag, gellir cyflwyno cwestiynau ar bridgendcrf@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y