Sut i dalu eich ardrethi busnes
Mae pob rhandaliad yn daladwy ar neu cyn y 15fed o bob mis. Fel rheol mae eich taliad cyntaf yn cael ei wneud ym mis Ebrill ac wedyn bydd naw rhandaliad misol pellach.
Dulliau talu:
Gallwch lenwi a dychwelyd y mandad sydd ar gefn eich hysbysiad i dalu ardrethi busnes. Dyma’r manteision o ddefnyddio debyd uniongyrchol:
- dyma’r ffordd fwyaf cost effeithiol o dalu
- does dim ciwiau
I dalu ar-lein, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Cofiwch fod â’ch rhif cyfrif ardrethi busnes oddi ar eich bil wrth law, a hefyd eich cerdyn debyd neu gredyd.
Cofiwch fod â’ch rhif cyfeirio saith rhif ardrethi busnes wrth law. Wedyn ffoniwch 01656 643391, neu ffonio’r system dalu awtomatig dros y ffôn ar 01656 642088.
I dalu, ewch â’ch bil, neu unrhyw lythyr gennym ni sydd â chod bar arno, i unrhyw swyddfa’r post.
Os oes arnoch angen hysbysiad talu arall er mwyn gallu talu, archebwch un o taxation@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643391.
Anfonwch eich siec yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Stryd Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Os ydych chi eisiau derbynneb, rhaid i chi gynnwys amlen gyda stamp a chyfeiriad arni, a chofio nodi eich rhif cyfeirio ardrethi busnes.