Cyfrifiad ardrethi busnes
Treth flynyddol, leol yw ardrethi busnes. Mae talwyr ardrethi a pherchnogion pob eiddo annomestig a busnes yn talu ardrethi busnes, ac mae enghreifftiau o eiddo atebol yn cynnwys siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.
Eiddo cyfansawdd
Mae gan rai safleoedd ddibenion domestig ac annomestig. Un enghraifft yw tafarn â fflat uwchben. Yn yr achosion hynny, mae ardrethi busnes yn daladwy ar y rhan annomestig, ac mae’r dreth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig. Eiddo cyfansawdd yw’r term ar gyfer safle o’r fath.
Sut caiff y dreth ei chyfrifo
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn pennu gwerth ardrethol pob eiddo busnes. Defnyddir meini prawf amrywiol megis gwerth trethol yr eiddo ar 1 Ebrill 2015 ac mae Llywodraeth Cymru’n pennu lluosydd yn flynyddol. Mae’r ddau ffigur yn penderfynu’r ardrethi sy’n daladwy.
Y lluosydd ar gyfer 2019/20 yw 0.526.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu ardrethi busnes ar gyfer Llywodraeth Cymru. Caiff yr ardrethi eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol Cymru er mwyn iddyn nhw dalu am wasanaethau.
Cyswllt
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Dydd Gwener: 8:30am tan 4:30pm.
SMS: 07581 157014 (i gwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw).
Croesewir galwadau yn Gymraeg.