Gwaith yn y Gymuned/Cynllun Gwneud Iawn
Mae cynlluniau gwneud iawn yn ymwneud â’r weithred neu’r broses o wneud iawn am drosedd. Nod cynlluniau gwneud iawn yw helpu i atal person ifanc rhag troseddu pellach trwy ddeall canlyniadau ei weithredoedd a chymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae wedi’i wneud. Mae cynllun gwneud iawn yn ei gwneud yn ofynnol i berson ifanc gywiro’r niwed a achoswyd gan ei ymddygiad boed yn uniongyrchol i’r dioddefwr neu’n anuniongyrchol i’r gymuned.
Gwneud Iawn yn Uniongyrchol
Mae cynllun gwneud iawn yn uniongyrchol yn golygu gwneud gwaith sydd o fudd i ddioddefwr trosedd, ac i gael mwy o wybodaeth am wneud iawn yn uniongyrchol a sut yr ydym yn gweithio gyda dioddefwyr troseddau cliciwch yma.
Gwneud Iawn yn Anuniongyrchol
Mae cynllun Gwneud Iawn yn Anuniongyrchol yn golygu gwneud gwaith di-dâl sydd o fudd i’r gymuned gyfan. Mae’n rhaid ei fod yn waith na fyddai’n cael ei wneud fel arall, gan mai’r nod – yn ogystal â bod yn fath o gosb – yw rhoi sgiliau a phrofiad i bobl ifanc, yn hytrach na chreu llafur rhad sy’n gwneud rhywun arall yn ddi-waith.
Cynhelir asesiad risg ar gyfer pob prosiect gwneud iawn a chaiff y gwaith ei oruchwylio gan staff hyfforddedig. Mae pob sesiwn yn para 2-3 awr a gallant ddigwydd gyda’r nos neu ar benwythnosau.
Gweld Prosiectau Gwneud Iawn Diweddar
- Last Updated: 14/11/2011
- Rate this page
- Back to top







