Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (YOS) Pen-y-bont ar Ogwr yn ymegnïo i atal a gostwng achosion o aildroseddu ymhlith plant a phobl ifanc a chynyddu eu hunan-fri, eu cyfrifoldeb a’r cyfleoedd iddynt ddatblygu ffyrdd cadarnhaol o fyw.

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn dîm amlasiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau cymdeithasol, byd addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, byd iechyd ac asiantaethau gwirfoddol ac mae wedi’i leoli o fewn y gwasanaethau Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd, Y Gyfarwyddiaeth Plant, CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwybodaeth i Bobl Ifanc

Os byddwch yn mynd i drwbl gyda’r heddlu gall fod yn anodd deall beth fydd yn digwydd. Mae staff y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yno i’ch helpu i ddeall yr hyn sy’n digwydd ac i fod yn gefn i chi. Mwy o wybodaeth i bobl ifanc

Gwaith Gyda Dioddefwyr Troseddau

Mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc, dioddefwyr a’r gymuned trwy eu hannog i gymryd rhan mewn cyfiawnder adferol. Mae cyfiawnder adferol yn broses sydd wedi’i bwriadu i unioni’r cydbwysedd yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol trwy gynnig cyfle i ddioddefwyr gael eu clywed.

Gwaith Gyda’r Gymuned

Ers ei sefydlu ym 1998 mae’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid wedi chwarae rhan mewn nifer o brosiectau cymunedol. Mae’n ofynnol i bron pob person ifanc sy’n rhan o’r gyfundrefn cyfiawnder ieuenctid gyfranogi mewn cynllun gwneud iawn. Mwy o wybodaeth am gynlluniau gwneud iawn

Y Panel Cynhwysiant a Chymorth Ieuenctid

Cysylltu â Ni

Dolenni Defnyddiol