Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Llywodraethwyr ysgolion

Oes gennych chi:

ddiddordeb yn nyfodol ein plant?

 

awydd i wneud gwahaniaeth?

amser ac egni?

parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb?

gallu i weithio mewn tîm?

tuedd i fod yn hapus i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu?

Mae 1057 o leoedd i lywodraethwyr yn ysgolion y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd, y mae 75 (7%) ohonynt yn lleoedd gwag sy’n dal heb eu llenwi.

Melanie Treharne, Rheolwr Tîm – Cymorth i Lywodraethwyr yn y Cyngor sy’n egluro rôl y llywodraethwr a’r cymorth a roddir i lywodraethwyr gan y Cyngor.

“Mae nifer y llywodraethwyr ar gorff llywodraethol pob ysgol yn amrywio gan ddibynnu ar yr ysgol ond mae gan y rhan fwyaf o ysgolion cynradd 14 ac mae gan ysgolion uwchradd ychydig mwy yn gymesur â’u maint. Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol gwrdd o leiaf unwaith y tymor ac mae disgwyl i lywodraethwyr hefyd fynychu cyfarfodydd unrhyw bwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt trwy gydol y flwyddyn. Ym mhob cyfarfod bydd llywodraethwyr yn derbyn ac yn trafod adroddiadau gan y pennaeth, y cyfarwyddwr addysg a diweddariad ar gyfrifon ariannol yr ysgol. Mae’n rhaid i lywodraethwyr wneud penderfyniadau neu roi cymeradwyaeth i ystod o faterion megis cyllidebau, recriwtio staff, materion disgyblu a gwaith cynnal a chadw cyffredinol i adeilad a thir yr ysgol. Maent hefyd yn monitro canlyniadau’r disgyblion mewn arholiadau a phrofion gan ystyried y targedau a osodwyd ac unrhyw adroddiadau arolygu mewn perthynas â’r ysgol.

“Ymdrinnir â nifer o faterion trwy bwyllgorau a chaiff y penderfyniadau eu cadarnhau wedyn gan y corff llywodraethol. Nid oes unrhyw rym gan lywodraethwr fel unigolyn gan mai grym fel cyfangorff sydd gan y corff llywodraethol. Fodd bynnag, mae llywodraethwr yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y rhieni, y gymuned leol a’r ysgol ac mae yno i fabwysiadu safbwynt gwrthrychol a gwneud penderfyniadau a fydd yn helpu i gyflawni a chynnal safonau uchel yn yr ysgol.

“Gall y cyfrifoldeb ymddangos ychydig yn frawychus i ddechrau ond mae’r Cyngor yn rhoi cymorth i newydd-ddyfodiaid trwy redeg cwrs sylfaen sy’n ymdrin â’r prif feysydd cyfrifoldeb. Mae hyfforddiant i lywodraethwyr sy’n fwy manwl ar gael ar ystod o bynciau, mae llinell ffôn bwrpasol i ateb unrhyw gwestiynau penodol ac mae cronfa o lywodraethwyr profiadol ar gael i rannu eu profiad helaeth. Mae’r Cyngor hefyd yn neilltuo clerc i bob corff llywodraethol i drefnu’r cyfarfodydd a chymryd cofnodion yn y cyfarfodydd hynny.”

“Nid oes rhaid bod gennych unrhyw gymwysterau penodol ac nid oes rhaid i chi fod yn byw yn agos at yr ysgol o anghenraid. Rydym yn chwilio am bobl â’r agwedd gywir a’r cymhelliant cywir ac sydd dros 18 i lenwi’r rôl a helpu i drefnu dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.

   
   

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol bwriwch olwg ar y rhestr o’r lleoedd gwag sydd ar gael ar hyn o bryd a lawrlwythwch ffurflen gais neu cysylltwch â:

Melanie Treharne

Rheolwr Tîm – Cymorth i Lywodraethwyr
Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AR

Rhif Ffôn: 01656 642661

E-bost: Melanie.Treharne@bridgend.gov.uk

Mae’r swyddfeydd ar agor o:

8.30am tan 5.00pm O ddydd Llun i ddydd Iau
8.30am tan 4.30pm Dydd Gwener

Mwy o wybodaeth ddefnyddiol:

Rhestr o Acronymau
Gwefannau defnyddiol

Rhestr o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr