Y Porth i’r Cymoedd – darpariaeth 11-18 yn ardal Porth y Cymoedd
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ymgynghori gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion yr ysgol, yn ogystal â defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr eraill y campws a’r gymuned leol, mae dyluniad adeilad newydd yr ysgol a’r campws cymunedol yn Nhon-du wedi cael ei gwblhau ac mae caniatâd cynllunio bellach wedi cael ei roi.
Mae disgwyl y bydd adeilad newydd yr ysgol ar gael ym mis Medi 2013. Tan hynny, bydd yr ysgol newydd, a fydd yn gwasanaethu’r dalgylchoedd a wasanaethir ar hyn o bryd gan Ysgol Gyfun Ogwr ac Ysgol Gyfun Ynysawdre, yn defnyddio’r adeiladau ysgol ar safleoedd y ddwy ysgol gyfun bresennol. Mae’r darpar bennaeth, Mr Andrew Warren, wrthi ar hyn o bryd yn paratoi i’r ysgol newydd agor ym mis Medi 2011 a’r cynlluniau mwy hirdymor y bydd eu hangen ar gyfer symud i adeilad newydd yr ysgol yn Nhon-du pan fydd wedi’i gwblhau.
Mae Llywodraeth Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i’r adeilad gael sgôr ‘Rhagorol’ dan gynllun BREEAM i ategu’r agenda i ostwng allyriadau carbon a bod mor effeithlon a chynaliadwy â phosib o safbwynt amgylcheddol. Mae gan y prosiect y potensial i gyflawni sgôr ‘Eithriadol’ (88.13%) dan gynllun BREEAM a fyddai’n golygu mai dyma’r adeilad cyntaf ym myd addysg yn y DU i gyrraedd y safon hon.
Sicrhawyd cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa sy’n darparu arian cyfalaf trosiannol i adeiladau ysgolion er mwyn cynorthwyo’r awdurdod i ariannu’r cynllun pwysig yma.

Argraff arlunydd o ysgol newydd Porth y Cymoedd
- Last Updated: 06/07/2011
- Rate this page
- Back to top



