Ystafell Ton Pentre
Angen gloywi eich sgiliau Saesneg neu Fathemateg?
Byddwch yn siŵr o gael croeso yn Ystafell Ton Pentre.
Bydd ein canolfan yn rhoi'r cyfle i chi ennill sgiliau a chymwysterau newydd.
|
|
Gall Ystafell Ton Pentre, yr ystafell newydd yng Nghanolfan Fywyd Y Pîl, gynnig cymorth i chi loywi eich sgiliau Mathemateg a Saesneg a'ch helpu i ennill cymhwyster mewn Llythrennedd neu Rifedd i Oedolion.
Gallwn gynnig ystod o gyrsiau Learndirect i ddechreuwyr yn rhad ac am ddim mewn nifer o bynciau e.e. Mathemateg Sylfaenol, Saesneg a TG, a hynny mewn amgylchedd croesawus, anffurfiol.
Y peth gwych ynglŷn â dysgu gyda Learndirect yw bod y cyrsiau mor hyblyg. Gallwch ddilyn nifer o'n cyrsiau yn eich canolfan leol, eich lyfrgell leol, ac yn eich cartref neu yn y gwaith os oes gennych fynediad at y Rhyngrwyd. Caiff y cyrsiau eu rhannu'n ddarnau byr, felly gallwch ddysgu wrth eich pwysau eich hunain pryd bynnag a ble bynnag sy'n gweddu i'ch amgylchiadau chi.
Grŵp Darllen
Mae gennym grŵp darllen newydd ar ddydd Mercher o 2pm-3pm (bob pythefnos) ac mae croeso i bawb. Gall y grŵp yma eich helpu i gynyddu eich hyder a'ch sgiliau darllen. Mae'n hwyl ac yn hamddenol.
Beth am ddod i gael sgwrs dros baned o goffi?

I gael mwy o wybodaeth galwch yn eich llyfrgell leol neu ffoniwch
Ystafell Ton Pentre
Canolfan Fywyd Y Pîl
Helig Fan
Y Pîl
CF33 6BS
ffoniwch Lynn 01656 815170
ebost: lynn.cabble@bridgend.gov.uk
Cliciwch yma i weld map stryd sy'n dangos y lleoliad
|
|
|
- Last Updated: 18/03/2011
- Rate this page
- Back to top












