Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Croeso i dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yma fe gewch wybodaeth am bob agwedd ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus a mynediad at gefn gwlad. Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr rwydwaith o dros 750 o hawliau tramwy cyhoeddus unigol, sy’n ymestyn dros gyfanswm o 590km ac yn amrywio o ran yr hawliau a’r math o ddefnyddiwr sy’n gallu eu defnyddio.

I gael gwybod mwy cliciwch ar y dolenni isod.

Caiff Hawliau Tramwy Cyhoeddus eu cofnodi ar y Map a’r Datganiad Swyddogol ac mae’r dogfennau hyn yn gofnod cyfreithiol ar gyfer llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd a chilffyrdd cyfyngedig. Mae’r map yn dangos llinell y llwybr ac mae’r datganiad yn rhoi disgrifiad byr mewn geiriau o bob llwybr. I gael mwy o wybodaeth am y map, sut y gallai llwybrau gael eu haddasu neu sut y gallai llwybrau newydd gael eu hychwanegu, cliciwch ar y dolenni isod.

Dolenni Cysylltiedig.

Mae’r adain Hawliau Tramwy hefyd yn rheoli’r llwybrau beicio oddi ar y ffordd a mynediad at y tir Mynediad Agored ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â hynny, mae ar hyn o bryd yn hyrwyddo dros 15 o lwybrau hamdden ac yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ni ddylid drysu rhwng llwybrau troed cyhoeddus a throedffyrdd, er enghraifft palmentydd ar ymyl y ffordd, sy’n rhan o gyfrifoldeb yr Adain Cynnal a Chadw Priffyrdd.