Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Strategaeth a Chynllun Gweithredu Adfywio Pen-coed

Pencoed Memorial

Main Railway Line, Pencoed

Pencoed

Strategaeth Adfywio Pen-coed

Gellir darllen Strategaeth Adfywio Pen-coed yma.

Ym mis Hydref 2009 fe ymrwymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-coed i gytundeb partneriaeth i ddatblygu Strategaeth Adfywio a Chynllun Gweithredu ar gyfer Pen-coed.

Ym mis Ionawr 2010, penodwyd Hyder Consulting Ltd i ddatblygu strategaeth a fyddai’n arwain at becyn datblygu cyflawn yn seiliedig ar adfywio cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n cofleidio egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn cynnwys cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Fe wnaed gwaith ymgynghori cychwynnol gydag amrywiaeth o grwpiau, mudiadau a sefydliadau a oedd yn cynnwys: Aelodau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a’r Cyngor Tref; Swyddogion y Cyngor Bwrdeistref Sirol; PACT Pen-coed; Ysgol Gyfun Pen-coed; Digwyddiad gan y Ganolfan ‘Just Ask’ i Bobl Ifanc’; Coleg Pen-y-bont; Pwyllgor Neuadd Lesiant Pen-coed; Busnesau Lleol a’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl).

Yn dilyn hyn fe luniwyd rhestr faith o brosiectau ar gyfer yr ardal ac fe’u gwerthuswyd gan ystyried cyfres o amcanion. Fe arweiniodd hyn at restr o 18 o brosiectau a ffafrir dan y penawdau canlynol:

Fe ymgynghorwyd â’r cyhoedd ynghylch y strategaeth ddrafft am gyfnod o chwe wythnos rhwng Hydref a Rhagfyr 2010. Cafodd y Strategaeth ei mabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y 12fed o Ionawr 2011. Mae’r ddogfen bellach yn Ganllaw Cynllunio Atodol (CCA) ac yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio perthnasol.

Yn leol