Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gwasanaeth Maethu Resolutions

Mae Gwasanaeth Maethu Resolutions yn bartneriaeth rhwng pedwar awdurdod lleol, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg. Mae Reolutions yn cynnig lleoliadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 17 oed y mae’u hymddygiad yn heriol.

Nod Resolutions yw darparu lleoliadau maethu o ansawdd uchel gyda chymorth da, sy’n arwain at ddeilliannau llwyddiannus i bobl ifanc. Credwn ein bod yn cynnig pecyn cynhwysfawr a deniadol o gymorth i’n gofalwyr a’r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt.

Pwy all faethu?

Gall gofalwyr maeth fod yn bobl sengl, yn bobl briod neu’n bobl sy’n byw gyda phartner, a gallant fod yn bobl heb eu plant eu hunain neu’n bobl a chanddynt eu plant eu hunain; a’r rheiny’n byw gartref neu wedi tyfu a gadael y nyth. Daw gofalwyr o bob math o gefnir ethnig, crefyddol a diwylliannol. Mae Resolutions yn croesawu gofalwyr o sawl math o gefndir gwahanol i ddiwallu anghenion amrywiol y bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt.

Beth yw’r gofynion ar gyfer dod yn ofalwr maeth?

Dyma rai o’r rhinweddau pwysig:

y gallu i ddeall ac ymgysylltu â phobl ifanc

y sgiliau i drafod telerau, cyfaddawdu a gweithio fel rhan o dîm

yr hyder i bennu ffiniau cadarn, ond rhesymol

y gallu i helpu’r person ifanc i ddatblygu ei hunan-fri

I fod yn ofalwr maeth gyda Resolutions bydd angen i chi:

fod ag ystafell wely sbâr

bod ar gael yn ystod y dydd

bod yn frwdfrydig, yn realistig ac yn rhywun sy’n peidio â barnu

Nid yw maethu’n debyg i unrhyw swydd arall. Mae’n cynnwys yr holl deulu ac yn digwydd yng nghartref y gofalwr maeth ei hun. Mae’n her fawr ac yn gofyn llawer a gall hefyd roi llawer o foddhad. Mae gofalwyr yn gweithio gydag amryw asiantaethau i sicrhau bod anghenion y person ifanc o ran iechyd, addysg a lles cymdeithasol yn cael eu diwallu.

Pa gymorth ydych chi’n ei dderbyn fel gofalwr maeth?

Mae Resolutions yn rhoi blaenoriaeth uchel i gymorth ar gyfer gofalwyr ac mae’n rhoi cymorth a hyfforddiant i helpu i gwrdd â her gofalu am rywun yn ei arddegau. Mae hyn yn cynnwys:

gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol penodol

goruchwyliaeth a chymorth yn rheolaidd gan eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol

grŵp cymorth i ofalwyr sy’n cwrdd bob 6 wythnos

aelodaeth unigol o’r Rhwydwaith Maethu

mynediad at gymorth 24-awr trwy dimau argyfwng pwrpasol

cyfleoedd hyfforddi cynhwysfawr gan gynnwys QCF Lefel 3

Yn ychwanegol, mae gofalwyr Resolutions yn derbyn:

pecyn ariannol hael

28 diwrnod o wyliau’r flwyddyn

hyd at 14 diwrnod o ‘seibiant’ y flwyddyn

lwfans gwyliau blynyddol i bob person ifanc

lwfans Nadolig/gwyliau crefyddol blynyddol i bob person ifanc

lwfans pen-blwydd i bob person ifanc

Lwfansau maethu

Ffi

£224.53 fesul wythnos, fesul plentyn

Lwfans y plentyn

£170.70 Fesul wythnos, fesul plentyn

Pen-blwydd

£170.70 Fesul plentyn a leolir

Nadolig

£170.70 Fesul plentyn a leolir

Gwyliau

£341.40 Fesul plentyn a leolir

Os ydych chi’n credu eich bod yn meddu ar y sgiliau sy’n angenrheidiol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Resolutions ar 0800 5877087 (rhadffôn) neu 01656 815494.

Yn leol

Dolenni sy'n gysylltiedig â Maethu Preifat