Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn dîm maethu profiadol iawn sy’n rhan o’r awdurdod lleol. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc, tra’u bod yn methu â byw gyda’u teuluoedd eu hunain.
Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn ymfalchïo mewn lleoli plant gyda’r gofalwyr sy’n gweddu orau i’w hanghenion, yn ogystal â gallu darparu amgylchedd sy’n fwy sefydlog, ac a fydd yn eu meithrin yn well.
Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau er ein bod yn arbennig o awyddus i glywed oddi wrth ofalwyr a chanddynt ddiddordeb mewn darparu:
|
Gofal maeth i blant 10+ oed |
|
Gofal maeth i siblingiaid |
|
Gofal cymorth – dros nos, wedi’i gynllunio (uchafswm o ddau arhosiad dros nos yr wythnos) i blant mewn teuluoedd agored i niwed i atal plant rhag dod yn rhan o’r gyfundrefn gofal |
Mae maethu’n eithriadol o foddhaus a gwerth chweil. Mae dewis dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad mawr. Gobeithio y bydd y dolenni cysylltiedig ar faethu’n eich helpu i wneud eich penderfyniad.
Os ydych chi’n dymuno rhoi mwy na dim ond gwên a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn, cysylltwch â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642349.
Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy, beth am ddod i un o’n digwyddiadau ‘cwrdd a chyfarch’ anffurfiol. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn fisol ac maent yn gyfle gwych i chi gael mwy o wybodaeth a sgwrsio gyda gofalwyr maeth presennol a chael profiad a gwybodaeth uniongyrchol.
Lleoliad: Tŷ Bryngarw
Mae dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf fel a ganlyn:
|
Dydd Iau 23 Chwefror |
|
Dydd Mercher 21 Mawrth |
Mae’r cyfarfodydd yn dechrau am 7pm ac yn para tan 9pm. Mae lluniaeth ar gael.
E-bost: bridgendfostercare@bridgend.gov.uk
Yn ysgrifenedig: Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Llawr 4, Swyddfeydd Sunnyside
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AR
- Last Updated: 26/01/2012
- Rate this page
- Back to top









