Amddiffyn Plant
Mae’n ddyletswydd statudol ar bob ysgol i gyflawni ei swyddogaethau gyda’r nod o ddiogelu a hybu lles ei disgyblion. Mae gan aelodau staff addysg swyddogaeth hollbwysig i’w chyflawni er mwyn cynorthwyo i nodi pryderon ynglŷn â chamdriniaeth neu esgeulustod posibl yn gynnar, gan gyfeirio’r pryderon hynny at yr asiantaeth briodol, sef y gwasanaethau cymdeithasol fel rheol. Maent hefyd yn cyfrannu at yr asesiad o anghenion plentyn.
Mae gan y Gwasanaethau Ieuenctid gysylltiad agos â phlant a phobl ifanc, a dylent fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth a gwybod sut i weithredu ynglŷn â phryderon am les plentyn. Yn yr un modd, bydd aelodau staff y Gwasanaethau Hamdden a Chymunedol yn dod i gyswllt gyda phlant i wahanol raddau a bydd angen iddynt ddilyn gweithdrefnau amddiffyn plant os oes pryderon.
Dyma’r fframwaith deddfwriaethol y mae amddiffyn plant yn seiliedig arno:
Deddf Plant 1989: Deddf Addysg 1996: Deddf Addysg 2002: Deddf Plant 2004
Dan Adran 28 Deddf Plant 2004 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a’u hasiantaethau partner wneud trefniadau ar gyfer sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth i’r angen i ddiogelu a hybu lles plant wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Dan Adran 31 y Ddeddf, bydd Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yn cael eu disodli gan Fyrddau Lleol Diogelu Plant ym mis Hydref 2006. Bydd y Byrddau hyn yn sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan bob unigolyn neu gorff a gynrychiolir, yn ei ddyletswydd i ddiogelu plant.
(Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004)
Pan fo pryderon bod plentyn wedi dioddef, yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol neu y gallai fod angen gwasanaethau cymorth arno, bydd y broses atgyfeirio yn cyd-fynd â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Mae’r dogfennau canlynol yn ymwneud ag atgyfeiriadau aelodau staff y Gwasanaethau Addysg, Hamdden a Chymunedol. Mae mwy o gyngor ar gael gan y tîm Amddiffyn Plant ar 728546, sydd wedi’i leoli yn yr Uned Cyfeirio Plant (PRU), Heol Persondy, Abercynffig neu trwy ffonio desg ddyletswydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 642320.
Polisïau, Profformâu a Gwybodaeth ar gyfer Aelodau Staff y Gwasanaethau Addysg, Hamdden a Chymunedol (gan gynnwys ysgolion)
Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y sail ar gyfer ei holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hawliau’r Confensiwn wedi cael eu trosi’n saith Nod Craidd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio gweithredu drwyddynt, er mwyn sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn:
- Cael dechrau teg mewn bywyd;
- Cael amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu;
- Mwynhau’r iechyd gorau posibl ac nad ydynt yn cael eu cam-drin, eu fictimeiddio na’u hecsbloetio;
- Cael mynediad i weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;
- Cael eu clywed, eu trin â pharch a bod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod;
- Cael cartref diogel a chymuned sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol; ac
- Osgoi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd tlodi.
Adlewyrchir yr amcanion hyn yn adran 25 Deddf Plant 2004 a chyda’i gilydd maent yn cryfhau’r trefniadau ar gyfer amddiffyn a hybu lles plant a phobl ifanc. Am y tro cyntaf, mae’n ei gwneud yn ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel awdurdodau gwasanaethau plant) i wneud trefniadau i hybu cydweithrediad gyda’r nod o wella lles plant yn eu hardaloedd, o ran:
- Iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol;
- Amddiffyniad rhag niwed ac esgeulustod;
- Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;
- Y cyfraniad a wneir ganddynt at gymdeithas; a
- Lles cymdeithasol ac economaidd.
Mae gan y Gwasanaethau Addysg, Hamdden a Chymunedol eu Polisi Amddiffyn Plant eu hunain (a gymeradwywyd ym mis Mai 2006). Dylai pob aelod o staff fod yn ymwybodol ohono gan ddilyn y cyfarwyddyd sy’n gysylltiedig â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Pan fo pryderon yn codi ynglŷn ag Amddiffyn Plant / Plant mewn angen, bydd angen i aelodau staff ddilyn y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant wrth wneud atgyfeiriad llafar at ddesg ddyletswydd y Gwasanaethau Plant (01656) 642320.
Mae’n rhaid dilyn yr atgyfeiriad llafar ag atgyfeiriad ysgrifenedig o fewn 48 awr, ar ffurflen atgyfeirio. Dylid anfon copi drwy’r ffacs at y Gwasanaethau Plant ar (01656) 648689, a hefyd at y Cydgysylltydd Amddiffyn Plant ar (01656) 720710 (ar gyfer dibenion archwilio).
Ffurflen Atgyfeirio Rhyng-asiantaeth
Ffurflen Caniatâd Rhieni
Os bydd yr atgyfeiriad yn arwain at gynhadledd achos, yna bydd angen i aelodau staff gwblhau’r profforma cynhadledd achos gychwynnol. (Canllaw) (Profforma)
Bydd Cynadleddau Achos Adolygu yn cael eu cynnal ar ôl 3 mis i gychwyn ac yna bob 6 mis, a dylai aelodau staff gwblhau’r profforma cynhadledd adolygu. (Canllaw) (Profforma)
Sylwer: Gofalwch fod copi o’r profforma yn cael ei anfon drwy’r ffacs at y Gwasanaethau Plant ar (01656) 648689, 24 awr cyn y gynhadledd. Byddai’n ddefnyddiol darparu copïau o’r adroddiad ar gyfer y gynhadledd.
Honiadau o Gamdriniaeth neu Destun Pryder ynglŷn ag Unigolyn sy’n Gweithio gyda Phlant
Gall plant gael eu cam-drin gan y rhai sy’n gweithio gyda nhw mewn unrhyw leoliad. Mae’n rhaid cymryd unrhyw honiadau o gamdriniaeth gan weithiwr proffesiynol, aelod o staff, gofalwr maeth neu wirfoddolwr o ddifrif felly, a’u trin yn unol â gweithdrefnau cyson. Ym mis Hydref 2006, bydd Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yn troi’n Fyrddau Lleol Diogelu Plant. Bydd y Byrddau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod gweithdrefnau rhyngasiantaeth effeithiol wedi’u sefydlu ar gyfer ymdrin â honiadau yn erbyn pobl sy’n gweithio gyda phlant. Byddant hefyd yn monitro a gwerthuso pa mor effeithiol yw’r gweithdrefnau hynny.
Gweler y canllaw amgaeedig canlynol i gael gwybod sut i atgyfeirio pryderon o’r natur hwn.
Allegations Against Staff – Guidance for Schools
- Last Updated: 25/06/2010
- Rate this page
- Back to top







