Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gwasanaeth ieuenctid sir pen-y-bont ar ogwr

Come talk to us (group of young peole)

Camera

Surfing

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymwneud â datblygiad sylfaenol a phersonol pobl ifanc 11-25 oed.

Mae'n ceisio annog, cynnwys a grymuso pobl ifanc mewn proses ddemocrataidd o wneud penderfyniadau, a fydd yn eu galluogi i fod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymuned ac mewn cymdeithas fyd-eang gyffredinol. Mae'r gwasanaeth ieuenctid hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd arloesol ac amrywiol sy'n diwallu anghenion canfyddedig pob person ifanc. Drwy gyfrwng gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, caiff pobl ifanc eu cefnogi mewn proses sy'n eu galluogi i gael eu gwerthfawrogi fel dinasyddion o fewn eu cymunedau. Os oes arnoch angen gwybod rhywbeth, yn amlach na pheidio, mae arnoch angen ei wybod nawr! Hefyd mae arnoch angen gallu ymddiried bod eich ffynhonnell yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy i chi.

Jeannette Denley yw Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

Y gwasanaethau sydd ar gael i Bobl Ifanc

 


Prosiectau i rai 13-19 oed

Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd


Prosiectau
Cerddoriaeth a'r Cyfryngau

 


Prosiectau Cwricwlwm


Cynhwysiant Cymdeithasol/Lleihau Troseddu


Prosiectau Gweithgarwch

 


Cwnselai Ieuenctid

OCN's & ROA's
Cymwysterau RhCA a Chofnodion Cyrhaeddiad


Cyngor Ieuenctid

Newyddion a Digwyddiadau

Hwyl Hafaidd 2011

     


Mae Hwyl Hafaidd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau, gweithdai a gwibdeithiau i bobl ifanc yn Sir Pen-y-bont trwy gydol y gwyliau haf.

Bwriwch olwg ar yr hyn sy’n digwydd o un wythnos i’r llall, a chymerwch ran!

Mae rhifyn cyntaf Cylchlythyr Gwasanaeth Ieuenctid Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael nawr! Bydd yn rhoi gwybod i chi am yr holl newyddion diweddaraf a'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau, cyngor, a llawer o ffeithiau ac awgrymiadau hwyliog. Ewch i'r adran lawrlwytho i lawrlwytho eich copi nawr... Darllen yr erthygl lawn.

Prosiect Ffotograffiaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr Cafodd grŵp o bobl ifanc o wahanol brosiectau gyfle i roi eu barn am Ben-y-bont ar Ogwr drwy gymryd rhan mewn prosiect ffotograffiaeth am yr hyn sy'n dda am Ben-y-bont ar Ogwr... Gweld rhai o'r ffotograffau gwych a gymerwyd gan bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.

Fel rhan o'r Wythnos Gwrth Fwlio, cynhaliwyd cystadleuaeth ddylunio gan y gwasanaeth ieuenctid ar y cyd â'r bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (CYP) i greu logo newydd er mwyn ail-frandio Gwrth Fwlio... Darllen yr erthygl lawn.

Gweithio yn y Gwasanaeth Ieuenctid

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn weithiwr ieuenctid neu'n wirfoddolwr, gall Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr roi cymorth a chyngor i chi. Os ydych chi eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth ieuenctid ac yn dymuno gwella eich sgiliau, gall y gwasanaeth ieuenctid ddarparu cyfleoedd datblygu a dysgu i'w staff... Cael gwybod mwy am weithio yn y gwasanaeth ieuenctid.

Gwasanaeth Negeseuon Testun Just @sk

Gwasanaeth negeseuon testun di-dâl i bobl ifanc yw Just @sk...4 a Txt...Cael gwybod mwy am y gwasanaeth negeseuon testun Just @sk.