Prosiect Antur
|
|
|
|
Beth yw Antur? |
|
|
|
|
||
|
|
||
|
Calendr Gweithgareddau Presennol |
|
|
|
Ffurflen Diddordeb ac Archebu |
Beth yw Antur?
Prosiect Gweithgareddau Antur i bobl ifanc yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yw Antur. Cynigir rhaglen unigryw o weithgareddau syrffio a beicio mynydd drwy bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yr Adran Pobl Ifanc Weithgar, a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Mae Antur yn darparu gweithgareddau antur sydd ar gael drwy galendr o sesiynau gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, ac mae’r rhain ar gael er mwyn i holl bobl ifanc Sir Pen-y-bont ar Ogwr gael y cyfle i brofi hwyl a gwefr yr awyr agored. P’un a ydych chi’n chwilio am gyflwyniad graddol neu ruthr adrenalin anhygoel, rydych chi wedi dod i’r lle cywir.
Mae Antur ar gael i bobl ifanc sydd yn bennaf (ond nid yn unig):
|
Yn byw ym Mhencoed, Bryntirion, Brynteg, a’r Cymoedd o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Yn 14 oed neu’n hŷn |
|
O bob lefel sgìl a gallu – o ddechreuwyr i rai profiadol. |
Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano – sesiwn i gael blas, datblygu eich sgiliau presennol, her bersonol, sesiwn adeiladu tîm neu ddim ond hwyl ac antur pur, fe gewch chi amser gwych.
Mae Antur yn darparu gweithgareddau antur yn rhai o leoliadau gorau Cymru. Mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr a’r ardaloedd o’i chwmpas yn cynnig rhai o brif leoliadau antur y byd a rhywfaint o’r coedwigoedd a’r mynyddoedd gorau, ynghyd â rhai o ddyfroedd glanaf a chynhesaf y DU, golygfeydd anhygoel a bywyd gwyllt rhyfeddol.
Syrffio
|
|
|
Dyfeisiwyd syrffio ym Mholynesia a Hawaii amser maith yn ôl, ac mae wedi newid llawer dros y can mlynedd diwethaf. Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf o ran siwtiau gwlyb a byrddau syrffio, ni fu gwell amser i ddysgu erioed.
Mae Porthcawl a de-orllewin Cymru yn lle gwych i syrffio, gyda thraethau’n wynebu ymchwydd yr Iwerydd ar dair ochr. Bydd amodau syrffio da i’w cael yn rhywle cyfagos fel arfer.
Os ydych chi’n newydd i’r gamp neu os hoffech chi wella, gall ein hyfforddwyr brwdfrydig a chyfeillgar ddangos i chi sut i sefyll a reidio eich ton gyntaf, torri’n ôl neu gicio allan.
Ond byddwch yn ofalus, gallwch ddod yn gaeth i syrffio – ar ôl i chi fwynhau unwaith, byddwch wrthi am weddill eich bywyd.
Ar ôl i chi reidio eich ton dda gyntaf, byddwch yn dechrau chwilio am un well. A bydd y chwilio’n parhau drwy gydol eich oes.
Dyddiau Profi
Mae ein Dyddiau Profi ‘Dysgu Syrffio’ wedi’u hanelu at ddechreuwyr llwyr neu bobl nad ydynt erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol ac sy’n dymuno dysgu’r hanfodion yn gywir.
Sesiynau Cynnydd/Clwb
Mae ein sesiynau ‘Dysgu Syrffio’ Cynnydd/Clwb wedi’u hanelu at ddechreuwyr a phobl sy’n gwella, pobl nad ydynt erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol ac sy’n dymuno dysgu’r hanfodion yn gywir neu wella eu gallu presennol. Yn ystod y sesiynau hyn, cewch fwy o amser i ymarfer dal tonnau a mwy o gyfarwyddyd gan hyfforddwr, felly gallwch ddatblygu’n llawer cyflymach.
Pwy a Ble?
|
Fel ar ein holl gyrsiau syrffio, byddwch yn treulio digonedd o amser yn y dŵr, mewn grŵp bach, gydag un o hyfforddwyr cymwysedig Cymdeithas Syrffio Prydain. |
Ein prif leoliad dysgu yw Newton a Rest Bay, Porthcawl, sy’n cynnig dŵr glân a chyfleusterau lleol da.
O bryd i’w gilydd, byddwn yn ymweld â thraethau eraill i weld “ton y dydd”!
Bydd pob sesiwn yn ymdrin â’r canlynol:
|
Trin bwrdd syrffio a phadlo arno yn ddiogel a chywir |
|
Y gallu i adnabod a dewis tonnau addas |
|
Reidio ton; yn gorwedd ac yn sefyll |
|
Gwneud troadau syml; yn gorwedd ac yn sefyll |
|
Defnyddio siartiau a rhagolygon tywydd i ragweld tonnau ac ewyn môr |
|
Deall peryglon cyffredin ar y traeth/yn y dŵr a sut i’w trin |
|
Gwybodaeth am gyfarpar a sut i ddewis beth sydd orau i chi |
|
Gwybodaeth am leoliadau syrffio da yn eich ardal neu o gwmpas y DU |
Bydd angen i chi ddod â’r pethau canlynol:
|
Pecyn bwyd |
|
Tywel* |
|
Esgidiau siwt wlyb |
|
Dillad nofio |
|
Dillad cynnes i newid iddynt |
*Codiwch mai’r arfer traddodiadol i syrffwyr yw newid ar y traeth heb lawer o gyfleusterau i wahanu dynion a menywod. Os ydych chi’n swil, dewch â thywel mawr iawn!
Byddwn yn darparu:
|
Bwrdd syrffio a thennyn |
|
Siwt wlyb “stemio” lawn |
|
Diodydd poeth |
|
Cyfarpar diogelwch |
...a hyfforddwr syrffio cyfeillgar a phrofiadol!
Beicio Mynydd
|
|
|
Mae gan Gymru rai o leoliadau beicio mynydd gorau’r byd, felly dyma’r lle i fod i ddilyn y llwybrau. Ac o fewn pellter byr i unrhyw le ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwch fod ar y Llwybr Celtaidd lleol neu yng nghanolfannau llwybrau beicio mynydd coedwigol Afan Argoed a Glyncorrwg.
Bydd y cyrsiau beiciau mynydd a gynhelir gennym yn rhoi’r holl wybodaeth a phrofiad sydd eu hangen arnoch i fynd i reidio a dal i feicio mynydd ar bob math o dir ac ym mhob tywydd, a hynny gyda gwên ar eich wyneb.
Rydym wedi helpu cannoedd o bobl ifanc i wella eu sgiliau beicio mynydd a phrofi llwybrau newydd. P’un a ydych chi’n rhoi cynnig ar feicio mynydd am y tro cyntaf neu’n chwilio am wersi i wella eich sgiliau beicio mynydd er mwyn gallu defnyddio’r llwybrau, rydych chi’n siŵr o fwynhau’r sesiynau hyn.
Dyddiau Profi
Mae ein Dyddiau Profi ‘Ar Eich Beic’ (Lefel 1) wedi’u hanelu at ddechreuwyr/pobl ddibrofiad neu bobl nad ydynt erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol ac sy’n dymuno dysgu hanfodion sut i reidio beic mynydd. Ymdopi â’ch cyflymder, cydbwysedd a hyder yw’r prif ffocws.
Sesiynau Cynnydd/Clwb
Mae ein sesiynau Cynnydd/Clwb wedi’u hanelu at bobl sy’n gwella a reidwyr canolraddol (Lefel 2), pobl nad ydynt erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol ac sy’n dymuno dysgu’r hanfodion yn gywir neu rai sydd am wella eu gallu gan symud ymlaen o Lefel 1. Yn ystod y sesiynau hyn cewch fwy o amser ar y llwybrau a mwy o hyfforddiant, felly gallwch ddatblygu’n llawer cyflymach.
Gall y rhain arwain at sesiynau Lefel 3, i reidwyr mwy profiadol sy’n dymuno mynd drwy’r rhannau anodd yn well neu’n gyflymach, neu i reidwyr sy’n symud ymlaen o Lefel 2. Mae’r rhain yn cynnwys disgynfeydd mwy, gwreiddiau, creigiau a phantiau a bryniau mwy serth. Magu hyder ar dir mwy serth ac ar gyflymder uwch yw un maes allweddol, ynghyd â dysgu technegau mwy cymhleth ar ysgafellau ac wrth ddringo. Mae hyn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd wedi bod yn reidio beiciau mynydd ac a hoffai wella ychydig mwy. Mae’r sgiliau y byddwch yn eu dysgu’n cynnwys troi corneli ac ymdopi â chyflymder, ysgafellau, pantiau a bryniau, codi olwyn flaen y beic (manuals), gwreiddiau a llawer mwy. Bydd reidwyr mewn canolfannau llwybrau a dechreuwyr yn elwa’n fawr iawn o ddysgu’r sgiliau hyn.
Pwy a Ble?
Fel ar ein holl sesiynau beicio mynydd, byddwch yn treulio digonedd o amser ar y llwybrau, mewn grŵp bach, gydag un o hyfforddwyr cymwysedig SMBLA (neu gyfwerth). Ein prif leoliadau dysgu yw Llwybr Celtaidd Pen-y-bont ar Ogwr neu goedwig Afan Argoed, ble ceir llwybrau wedi’u marcio’n glir a chyfleusterau lleol da.
O bryd i’w gilydd, byddwn yn ymweld â llwybrau eraill, er mwyn ychwanegu amrywiaeth a her i’r grŵp!
Bydd pob Sesiwn yn ymdrin â’r canlynol:
Mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth eang o dir a rhwystrau gan gynnwys ysgafellau, neidiau, disgynfeydd ac adran eithaf anodd i lawr rhiw. Yma, byddwch yn reidio mewn grŵp bach (hyd at 6 o reidwyr) gydag un o hyfforddwyr Antur a gyda chymorth arweinydd arall.
Bydd hyfforddwyr Antur yn cyflwyno amrywiaeth eang o sgiliau ond bydd y prif bwyslais ar y canlynol:
|
Rhoi’r beic at ei gilydd yn gywir |
|
Safle reidio cywir |
|
Cyfarpar a Diogelwch ar y Llwybr |
|
Rheoli egni |
|
Reidio gwahanol fathau o drawsnewidiadau |
|
Rheoli’r beic a sgiliau llywio |
|
Gallu ar gorneli, mannau brecio a chyflymder gadael |
|
Rhythm a chynyddu eich cyflymder |
Bydd angen i chi ddod â’r pethau canlynol:
|
Pecyn bwyd a digon o boteli o ddiod (heb swigod) |
|
Tywel* |
|
Hen ddillad chwaraeon a chrys llewys hir (trowsus byr yn ddelfrydol, dim jîns) |
|
Siaced/Cot ysgafn |
|
Dillad cynnes i newid iddynt |
*Cofiwch mai’r arfer traddodiadol i feicwyr yw newid ym maes parcio’r llwybrau os oes angen, heb lawer o gyfleusterau i wahanu dynion a menywod. Os ydych chi’n swil, dewch â thywel mawr iawn!
Byddwn yn darparu:
|
|
|
Helmed |
|
Bag cefn |
|
Diodydd poeth |
|
Cyfarpar diogelwch |
...a hyfforddwr beicio cyfeillgar a phrofiadol! |
Ar gael cyn bo hir! Calendr Gweithgareddau Presennol Antur
Gallwch weld beth sydd ar gael, pryd ac ym mhle.
Ar gael cyn bo hir! Ffurflen Diddordeb ac Archebu Antur
Gallwch lawrlwytho copi o’r Ffurflen Diddordeb/Archebu oddi ar y we. Llenwch bob adran mor llawn â phosibl, a dychwelwch y ffurflen gyda Ffurflen Caniatâd Gweithgaredd wedi’i llenwi (OS3; wedi’i llofnodi gan riant/gwarcheidwad os ydych chi o dan 18 mlwydd oed) i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Newyddion a’r Wybodaeth Ddiweddaraf
Yma, cewch newyddion, ffotograffau a digwyddiadau diweddaraf y prosiect Antur.
Gweld lluniau syrffio diweddaraf y prosiect Antur
Gweld lluniau beicio diweddaraf y prosiect Antur
Rheoli’r Prosiect
Caiff Antur ei reoli a’i ddarparu gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio mewn partneriaeth â’r Adran Pobl Ifanc Weithgar a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Cyfarfod â'r Tîm
Arweinwyr Profiadol a Chymwysedig
Mae ein Cydlynydd a’n Hyfforddwyr i gyd naill ai’n hyfforddwyr awyr agored profiadol neu’n weithwyr ieuenctid sy’n arwain gweithgareddau Gwasanaeth Ieuenctid Sir Pen-y-bont ar Ogwr a darparwyr Gweithgareddau Antur eraill. Dim ond hyfforddwyr profiadol a chymwysedig a ddefnyddir gan Antur, ac maent wedi profi eu gallu i arwain grwpiau o bobl ifanc. Mae gan ein holl arweinwyr gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Ein harweinwyr yw’r cyswllt pwysicaf o ran asesu a rheoli risgiau yn ein lleoliadau. Maent yn arwain gweithgareddau antur yn rheolaidd gyda phobl ifanc a chânt eu paru’n ofalus â’ch grŵp, y lleoliad a’r gweithgareddau a gynhelir. Caiff asesiadau risg eu cynnal, eu monitro a’u hadolygu ar gyfer pob rhan o’r daith ac ar gyfer pob gweithgaredd a gynhelir. Mae gan ein holl arweinwyr a hyfforddwyr gweithgareddau antur gymhwyster cymorth cyntaf a phrofiad o ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd a lefelau gallu.
Rheolwr Prosiect a Phrif Hyfforddwr Gweithgareddau Antur:
Matthew Rowlands
Hyfforddwyr Gweithgareddau:
Syrffio - Sam Moore a Sophie James
Beicio Mynydd - Amy Gillingham, Owen Shepherd a Louise Williams
I gael mwy o wybodaeth:
Ffoniwch Louise Williams-Brown neu Richard Williams ar (01656) 724057
Trwyddedig
|
Mae prosiect Antur (Gweithgareddau Antur) drwy Wasanaeth Ieuenctid Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i drwyddedu’n llawn gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur. Mae ein tywyswyr profiadol a chyfeillgar ymysg y rhai mwyaf proffesiynol unrhyw le – maent wedi’u hyfforddi at y safon uchaf bosibl ar gyfer pob gweithgaredd, i sicrhau y byddwch mewn dwylo diogel bob amser. |
Cyllid Prosiect Antur
|
Partneriaethau Antur
|
|
|
Mentrau Cymdeithas Antur
|
|
- Last Updated: 24/05/2010
- Rate this page
- Back to top
























