Canolfan Wybodaeth Just @sk
|
|
|
|
|
‘Just @sk’…am neges destun | |
|
‘Just @sk’ yn y Siop Wybodaeth |
|
‘Just @sk’…am gwnsela |
|
‘Just @sk’…Gwybodaeth Uniongyrchol |
|
‘Just @sk’…am brosiectau amlgyfrwng |
|
‘Just @sk’…am eich hawliau |
Pam dw i angen Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad?
Mewn cymdeithas lle y mae pobl ifanc yn cael eu peledu â gwybodaeth oddi ar y rhyngrwyd, ar y teledu a’r radio, mewn cylchgronau a phapurau newydd, a chan ffrindiau, rhieni ac athrawon (i enwi ond ychydig!!), gall fod yn anodd gwneud synnwyr o bopeth sydd ar gael.
Os ydych chi eisiau gwybod rhywbeth, yn fwy aml na pheidio, rydych chi angen gwybod hynny ar unwaith! Mae angen i chi hefyd allu bod yn sicr bod eich ffynhonnell yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy i chi.
Mae prosiectau Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi eu seilio ar wybodaeth yn rhannu nod cyffredinol, sef cynorthwyo pobl ifanc trwy ddarparu’r wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad gorau posibl fel eich bod yn gallu gwneud pob dewis trwy ystyried yr hyn sydd orau i chi, gan ddefnyddio’r wybodaeth orau sydd ar gael i chi. Mae pob prosiect a menter ‘Just @sk’ wedi eu sefydlu i roi gwybod i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr am yr amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau sydd ar gael iddynt yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae pobl ifanc yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, ac felly, rydym yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan lawn, pan fo hynny’n bosibl, mewn datblygu’r ffordd y darperir ein gwasanaethau trwy roi cyngor i ni ar ein prosiectau, ein cynorthwyo i gynllunio ein gwasanaethau a’n hadnoddau, a hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid, hwyluswyr ac addysgwyr cyfoed er mwyn cyfeirio eraill at y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc 11-25 mlwydd oed.
‘Just @sk’...yn y Siop Wybodaeth
|
|
Mae’r siop wybodaeth yn darparu amrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau i bobl ifanc dan un to. Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gael ynglŷn â materion sy’n amrywio o gyngor ar dai i sut i gael gwaith a hyfforddiant.
Mae’r prosiectau a’r gwasanaethau yn cynnwys:
|
Gweithdai a chymwysterau OCN |
|
Hyfforddiant achrededig |
|
Gwasanaeth cwnsela ar y safle |
|
Clinig y Gwasanaeth Cynghori Ieuenctid (Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg) |
|
Mynediad rhad ac am ddim at y rhyngrwyd |
|
Defnyddio’r ffôn |
|
Cymorth i lenwi ffurflenni a chydag atgyfeiriadau |
|
Dosbarthu condomau |
|
Prosiectau amlgyfrwng megis Gwneud Ffilmiau |
|
Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr |
‘Just @sk’...Gwybodaeth Uniongyrchol
Prosiect symudol yw Gwybodaeth Uniongyrchol sy’n ymweld â phobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain mewn 18 o wahanol leoliadau ym mhob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys tair ysgol (a weithredir mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg).
Mae’r prosiect yn darparu:
|
Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad un i un |
|
Gweithdai, mewn partneriaeth â chanolfannau a sefydliadau ieuenctid |
|
Atgyfeiriadau i asiantaethau eraill |
|
Gwybodaeth am iechyd rhywiol a pherthynas, gan gynnwys dosbarthu condomau |
‘Just @sk’ am eich hawliau
Mae’r Prosiect Hawliau yn gweithio gyda phobl ifanc mewn canolfannau ieuenctid, prosiectau ac ysgolion er mwyn eu hyfforddi i roi gwybod i bobl ifanc eraill am yr hawliau sylfaenol sydd ganddynt fel person ifanc sy’n byw yng Nghymru, a sut i’w defnyddio. Mae’r prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i helpu pobl ifanc i gyfeirio pobl ifanc eraill at wasanaethau yn eu hardaloedd hwy.
‘Just @sk’... am neges destun
Gwasanaeth neges destun newydd rhad ac am ddim ar gyfer pobl ifanc yw ‘Just @sk..’ am neges destun. Ar ôl cofrestru, bydd pobl ifanc yn derbyn negeseuon testun yn rheolaidd am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael iddynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er mwyn ymuno, anfonwch e-bost i justask@bridgend.gov.uk neu ewch i Siop Wybodaeth ‘Just @sk’ yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
‘Just @sk’... am gwnsela
Mae’r Gwasanaeth Cwnsela Ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth cwnsela cyfrinachol, rhad ac am ddim mewn ysgolion, canolfannau ieuenctid a lleoliadau cymunedol eraill ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed. Mae cwnsela yn golygu siarad am broblemau a allai fod yn eich poeni. Gall hyn eich helpu i ddelio gyda phethau y mae angen rhoi trefn arnynt a dod i delerau â’r rhai na ellir eu datrys.
‘Just @sk’...am brosiectau amlgyfrwng
|
|
|
Mae Prosiectau Amlgyfrwng ‘Just @sk’ yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwneud ffilmiau, golygu fideos a sgiliau darlledu, a chymryd rhan mewn darllediadau ar y rhyngrwyd a digwyddiadau rhyngweithiol byw. Cynorthwyir y bobl ifanc i ennill sgiliau trin ffotograffau a dylunio gwefannau. Mae’r prosiect yn cynnwys cyfleusterau dau Labordy Digidol sydd wedi eu lleoli yn Siop Wybodaeth ‘Just @sk’ yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac Adain Ieuenctid Ynysawdre sy’n darparu mynediad rhad ac am ddim at y rhyngrwyd, digwyddiadau y tu allan i’r safle a Chlwb Ffilmiau Ieuenctid.
Mae’r offer amlgyfrwng sydd ar gael i bobl ifanc eu defnyddio yn y Labordai Digidol yn cynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol, sganwyr, cyfleusterau argraffu A3 ac A4 yn rhad ac am ddim, allweddellau MIDI, technoleg gynorthwyol, gan gynnwys bysellfyrddau a llygod wedi eu haddasu, a chamerâu digidol, llonydd a fideo. Dim ond eich dychymyg chi sy’n cyfyngu ar y defnydd o’r offer hyn!
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:-
Siop Wybodaeth ‘Just @sk’ - 6/6a Stryd Wyndham, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1EF
Ffôn: 01656 815150
E-bost: justask@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 20/05/2010
- Rate this page
- Back to top















