Cysgodfeydd Bysiau a Dodrefn Stryd
Mae oddeutu 500 o gysgodfeydd bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Caiff y cysgodfeydd eu glanhau bob wythnos ac mae gwasanaeth galw allan ar gael pan fo angen eu glanhau ar frys.
Yn ogystal â hynny, mae eitemau niferus o ddodrefn stryd – a’r rheiny’n amrywio o folardiau i lwyfannau band – sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr Awdurdod. Mae’r rhain yn cynnwys 400 o feinciau min ffordd, atalfeydd ar gyfer cerddwyr, ffensys, polion basgedi blodau, potiau blodau a darnau o waith celf.
Rydym yn archwilio cysgodfeydd bysiau a dodrefn stryd yn gyson i sicrhau eu bod yn lân ac yn ddiogel i’w defnyddio.
Rhoi Gwybod am Namau
Rydym yn croesawu wybodaeth am unrhyw namau ac yn gweithredu gwasanaeth gofal am gwsmeriaid sydd ar gael 24 awr y dydd.
Ar gyfer pob ymholiad ynghylch priffyrdd ffoniwch: 01656 642541 yn ystod oriau swyddfa 8.00 – 17.00.
Ar gyfer pob argyfwng sy’n gysylltiedig â phriffyrdd gan gynnwys llifogydd, difrod, digwyddiadau traffig ffoniwch 07831 143600 y tu allan i oriau swyddfa.
Fel arall anfonwch neges e-bost i: custcare@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 12/04/2010
- Rate this page
- Back to top







