Rheoli Gwastraff
|
|
|
Mae gwasanaeth rheoli gwastraff y cyngor yn ymdrin â chasgliadau sbwriel, ailgylchu, casgliadau wrth ymyl y ffordd, safleoedd amwynderau dinesig, camau gorfodi sy’n ymwneud â baw cŵn a sbwriel, cael gwared ar geir sydd wedi eu gadael, casglu nodwyddau diabetes, lleihau cymaint â phosibl ar wastraff ac addysgu am ailgylchu.
Gwastraff yw un o broblemau mwyaf Cymru o ran yr amgylchedd, ac mae’n broblem yr ydym i gyd yn cyfrannu ati bob dydd fel unigolion. Mae’r cartref cyffredin yn cael gwared ar oddeutu 1 dunnell o wastraff bob blwyddyn.
Ym mis Mehefin 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Strategaeth Wastraff Genedlaethol o’r enw “Yn Gall Gyda Gwastraff”. Mae’r Strategaeth hon yn nodi amcanion rheoli gwastraff ar gyfer Cymru ac yn gosod blaenoriaeth uchel ar leihau cymaint â phosibl ar y gwastraff a gynhyrchir, dargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi, a phan fo’n ymarferol, adennill gwerth o wastraff trwy ailgylchu, compostio ac ynni o wastraff.
Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno targedau i awdurdodau lleol eu cyflawni trwy Leihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu.
- Last Updated: 29/03/2010
- Rate this page
- Back to top










