Adnewyddu Ardaloedd
|
|
|
Ardal Adnewyddu Tai Ward Caerau
Fe ddatganodd y Cyngor yn ffurfiol ar 13eg o Fedi 2006 bod ward Caerau wedi cael ei dynodi’n ardal adnewyddu tai a bydd yn aros felly am o leiaf 10 mlynedd. Ardal Adnewyddu Tai Ward Caerau, sy’n cynnwys pentrefi Nantyffyllon a Caerau, yw’r gyntaf i gael ei dynodi a’i datgan yn ffurfiol o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Beth yw ardal adnewyddu?
Mae ardal adnewyddu’n fodd i gydgysylltu arian a gwasanaethau mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig lle cydnabyddir fod problemau tai, problemau cymdeithasol ac amgylcheddol. Y nod gydag ardaloedd adnewyddu yw dwyn adfywhad cynhwysfawr i ardal, gan wella cartrefi, siopau, adeiladau masnachol eraill, yr amgylchedd lleol a’r isadeiledd.
Mae dwyn effaith gadarnhaol ar iechyd a lles yn darged hanfodol a bwriedir achub ar bob cyfle i ddefnyddio mentrau cymunedol. Cyflawnir hyn trwy ddull o weithio sy’n golygu bod pob adran yn yr awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector preifat, gyda chyrff cyhoeddus eraill ac, yn bwysicach byth, gyda’r gymuned leol, er mwyn datblygu strategaethau cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
Mae ardaloedd adnewyddu wedi profi’n hynod lwyddiannus yng Nghymru wrth fynd i’r afael â’r problemau amddifadedd sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd ac wrth greu cymunedau gwirioneddol hyderus a chynaliadwy.
Y Cynnydd Hyd Yma
Fe wnaeth y cyngor, mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr a chontractwyr, ymgymryd â chynllun peilot yn Sgwâr Caerau i wella nifer fechan o dai yn 2007.
Hyd yn hyn, mae dros £2.88 miliwn wedi cael ei ymrwymo er mwyn gwella cartrefi a’r amgylchedd lleol yn ardal adnewyddu Caerau a Nantyffyllon. Ers 2007, mae 119 o dai wedi cael eu gwella o amgylch Sgwâr Caerau, Rhes Talana, Rhes y Coetir, Bythynnod Tywith a Heol Picton.
Mae’r Cyngor yn bwriadu gwario £1m ychwanegol yn 2009/10 i wella cartrefi yng Nghaerau a Nantyffyllon. Bydd anheddau ychwanegol yn Stryd Bedw, Heol Hermon a Stryd Picton yn elwa, ynghyd â Magazine Street a bloc o 10 tŷ yn Heol Caerau. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ac yn parhau tan 2010/11. Mae gwelliannau i’r amgylchedd a chyfleusterau cymunedol hefyd yn yr arfaeth ar gyfer y Ward.
Mae nifer o arddangosfeydd cyhoeddus wedi eu cynnal, a bwriedir cynnal rhai eraill ledled Ward Caerau. Bydd cyflwr allanol tai preifat yn cael ei wella, megis toeau, ffenestri, inswleiddio, waliau terfyn, yn ogystal â’r amgylchedd lleol. Rydym yn mynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig i wella effeithlonrwydd ynni tai ac am fwy o wybodaeth a chyngor, ffoniwch y rhifau a welir isod.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Pa fathau o waith fydd yn cael eu gwneud?
Bydd gwaith allanol yn cael ei wneud i adnewyddu ffabrig allanol tai gan gynnwys gorchuddion toeau, cafnau dŵr, ffasgiâu, estyll tywydd, a gosod ffenestri a drysau newydd. Bydd gwaith yn cael ei wneud hefyd i inswleiddio atigau, atal drafft a gwella diogelwch yn y cartref trwy osod cloeon ychwanegol, bolltau a goleuadau diogelwch.
A fydd rhaid i mi gyfrannu tuag at gost y gwaith sy’n cael ei wneud i’m tŷ?
Mae cyfraniadau yn amodol ar brawf adnoddau. Yr uchafswm fydd 10% ar gyfer perchen-ddeiliad a 25% ar gyfer landlordiaid.
A yw’r Cyngor eisoes wedi penderfynu ar yr hyn y mae am ei wneud yn yr ardal?
Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd gennych am Gynlluniau Gwaith Amgylcheddol a fyddai’n gwella’r gymuned a’r amgylchedd cyffredinol yn eich tyb chi.
A fydd y trigolion yn cael cyfle i leisio barn?
Holl ddiben yr Ardaloedd Adnewyddu yw eu bod yn cael eu harwain gan y gymuned. Bydd y Cyngor yn rhoi cymorth i drigolion ffurfio grwpiau lleol i gyflwyno syniadau i’r grwpiau rheoli a gweithredu.
Sut fydd y trigolion yn cael gwybodaeth?
Bydd y Tîm Adnewyddu Tai yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion trwy gylchlythyron rheolaidd a gohebiaeth eraill. Mae swyddfa o fewn yr Ardal Adnewyddu wedi cael ei darparu hefyd er budd y trigolion lleol ac mae’r Tîm Adnewyddu Tai yn gweithio o gaban symudol ar Heol Coegnant gyferbyn â Stryd Magazine. Mae’r swyddfa ar agor ar ddydd Mercher o 10.00am - 2.00pm a bydd diwrnodau ac oriau eraill pan fo’r caban ar agor yn cael eu hysbysebu cyn gynted ac y byddant wedi cael eu cadarnhau.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r:
Tîm Adnewyddu Tai: 01656 643429
Swyddog Cyswllt Ardaloedd Adnewyddu: 01656 643672
Ymwelwch â Gwefan Caerau First
- Last Updated: 02/09/2011
- Rate this page
- Back to top










