Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Safleoedd Parcio a Theithio


Mae nifer o safleoedd parcio a theithio ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol, sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol.

Mae cyfarpar teledu cylch cyfyng (CCTV) a lle parcio ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob un o’r safleoedd a nodir isod.

Ewch i wefan y Gwasanaeth Ymholiadau Trenau Cenedlaethol neu ffoniwch 08457 48 49 50 i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau trên. Mae gwefannau Trenau Arriva Cymru a First Great Western yn cynnwys mwy o wybodaeth am eu gwasanaethau nhw.

Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr


Mae oddeutu 90 lle parcio talu ac arddangos ar gael yng ngorsaf Pen-y-bont ar Ogwr, lle darperir gwasanaethau aml ar hyd prif lein rheilffordd De Cymru. Trenau Arriva Cymru sy’n gweithredu’r lleoedd parcio.

Parcio a Theithio Maesteg


Mae 15 lle parcio rhad ac am ddim ar gael yn y safle hwn, sydd wedi ei leoli ar y lein o Faesteg i Ben-y-bont ar Ogwr gyda gwasanaeth bob awr i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Gallwch fynd i orsaf reilffordd Maesteg hefyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth bysiau linc trên sy’n rhedeg rhwng Caerau a Maesteg ac sy’n cael ei ariannu gan y cyngor.

Parcio a Theithio’r Pîl


Mae 23 lle parcio ar gael yn rhad ac am ddim ar y safle hwn, sydd wedi’i leoli ar brif lein rheilffordd De Cymru gyda threnau’n mynd bob awr i’r naill gyfeiriad a’r llall.

Parcio a Theithio Sarn


Mae 10 lle parcio ar gael yn rhad ac am ddim ar y safle hwn, sydd ar y lein rheilffordd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r trenau’n mynd bob awr gan aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Parcio a Theithio Ton-du


Mae 14 lle parcio ar gael yn rhad ac am ddim ar y safle hwn, sydd ar y lein rheilffordd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r trenau’n mynd bob awr gan aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Manylion Cyswllt


Uned Cydgysylltu Cludiant Teithwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwasanaethau Streetscene
Y Gyfarwyddiaeth Gymunedol
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB



Ffôn: 01656 642559
Ffacs: 01656 642859
E-bost: transportation@bridgend.gov.uk

Dolenni Cyflym