Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Teithio Egnïol

 

Dolenni Cyflym

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn ehangu ei rwydwaith o lwybrau er mwyn annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn fwy aml a bod yn fwy egnïol.

Mae’r rhwydwaith yn cynnwys llwybrau mewn ardaloedd dinesig sydd â’r nod o annog pobl i gerdded a beicio yn hytrach na defnyddio’r car, cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau i annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol, a llwybrau hamdden, megis y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a llwybrau cymuned lleol, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a beicwyr llai hyderus sy’n dymuno mwynhau’r awyr iach.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael copi o daflen sy’n cynnwys cynllun o’r llwybrau yn yr ardal, ynghyd â chyngor i feicwyr, gwybodaeth ynglŷn â llety a argymhellir a gwybodaeth ychwanegol am Deithio Egnïol:

Taflen Beicio (Saesneg)

Taflen Beicio (Cymraeg)

Hefyd, mae Rhwydwaith Hawliau Tramwy'r fwrdeistref sirol yn cynnwys mwy na 500km o lwybrau cerdded a 81km o lwybrau ceffyl sydd wedi bodoli am gan mlynedd o leiaf.

Mae’r Cyngor wedi paratoi dwy ddogfen allweddol hefyd, sy’n amlinellu ein rhaglen ar gyfer datblygu cyfleusterau cerdded a beicio o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP) yn nodi cynigion ar gyfer gwella mynediad i gefn gwlad ynghyd â nodi, blaenoriaethu a chynllunio gwelliannau i’r rhwydwaith hawliau tramwy lleol.

Mae’r Strategaeth Cerdded a Beicio yn canolbwyntio ar ddatblygu cerdded a beicio yn bennaf fel modd o deithio, ond mae’n ystyried hefyd yr effaith y gall cerdded a beicio ei chael ar dwristiaeth, hamdden ac iechyd. Mae fersiwn Gymraeg o’r Strategaeth Cerdded a Beicio ar gael hefyd.

Mae manylion cyswllt yr adrannau perthnasol wedi eu cynnwys ar y tudalennau priodol, ond mae croeso i chi gysylltu â’r adran gofal y cwsmer isod os nad ydych yn sicr pa adran sydd ei hangen arnoch.


Manylion Cyswllt

Gofal y Cwsmer
Gwasanaethau Streetscene
Y Gyfarwyddiaeth Gymunedau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig

Stryd yr Angel

Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Ffôn: 01656 642541
Ffacs: 01656 642580
E-bost: transportation@bridgend.gov.uk