Nod mentrau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yw annog pobl i ddefnyddio cludiant cynaliadwy, fel cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus, ar gyfer teithiau lleol.
Gall cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gynnwys pethau fel darparu ynysoedd i gerddwyr yng nghanol lonydd llydan, culhau ffyrdd, gwella palmentydd a llwybrau cerdded, a datblygu llwybrau ar gyfer beiciau a chyfleusterau cysylltiedig megis safleoedd parcio beiciau.
Ers 1999, mae’r Cyngor wedi bod yn hyrwyddo mentrau cerdded a beicio dan raglen Llwybrau Diogel i Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn 2007, rhoddwyd enw newydd i’r rhaglen hon, sef Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Ers sefydlu’r rhaglen yn wreiddiol, mae’r cyngor wedi denu dros £1 miliwn o Grant Trafnidiaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu mesurau ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghefn Glas, Bracla, Bro Ogwr, Cwmfelin, Abercynffig, Cefn Cribwr a Threlales, ynghyd ag Ysgol Uwchradd Brynteg.
Mae ysgolion sydd wedi creu Cynllun Teithio i’r Ysgol yn gymwys i gymryd rhan yn y broses o gynnig am nawdd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Gallai cynigion a gyflwynir gan gymunedau lleol hefyd fod yn gymwys i gynnig am nawdd, yn enwedig os byddant yn cael eu cefnogi gan Gynlluniau Mynediad Cymunedol (CAP).
Cysylltwch â Thîm Polisi a Datblygiad Trafnidiaeth y cyngor i gael mwy o wybodaeth am Lwybrau Diogel mewn Cymunedau, Cynlluniau Teithio i’r Ysgol a Chynlluniau Mynediad Cymunedol, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
|

|