Pecyn o fesurau wedi ei deilwra i anghenion safleoedd unigol yw Cynllun Teithio. Y nod yw cael pobl i ddibynnu llai ar y car, a hybu dewisiadau teithio mwy cynaliadwy, megis cerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus.
Gall Cynlluniau Teithio eich helpu i leihau’r effaith ar yr amgylchedd, ac maen nhw’n gwneud synnwyr busnes da hefyd. Gallant leihau tagfeydd o amgylch y safle ac arbed arian ar deithiau busnes. Gallant helpu i ddenu staff i safleoedd a fyddai fel arall yn anodd eu cyrraedd, a gallant helpu hefyd i wneud eich gweithlu’n iachach.
Mae’r cyngor yn datblygu Cynlluniau Teithio ar gyfer pob un o’i brif swyddfeydd ac mae hefyd yn gweithio gyda’r Cydgysylltwyr Cynlluniau Teithio a gyflogir gan Sewta i annog busnesau ac ysgolion o fewn y fwrdeistref sirol i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain.
Mae’r cyngor wedi paratoi Canllaw i Ddatblygwyr ar Gynlluniau Teithio, er eu mwyn helpu i baratoi’r Cynlluniau Teithio sydd eu hangen fel rhan o ddatblygiadau newydd. Mae’r canllaw yn rhoi cyngor ar ba bryd y mae angen Cynllun Teithio, a sut y dylid ei ddatblygu a’i fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Cynlluniau Teithio i’r Ysgol
Pecyn o fesurau trafnidiaeth a mesurau eraill yw Cynllun Teithio i’r Ysgol. Y nod yw hybu dulliau teithio cynaliadwy, ac annog pobl i’w defnyddio wrth deithio i’r ysgol. Bwriad pennaf y mesurau yw cael pobl i fod yn llai dibynnol ar geir, a’u hannog i gerdded a beicio.
Mae ysgolion sydd wedi cwblhau Cynllun Teithio i’r Ysgol yn gymwys i gymryd rhan yn y broses o gynnig am nawdd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae mwy o wybodaeth am Gynlluniau Teithio, a datblygu Cynllun Teithio i’r Ysgol, ar gael gan y Tîm Polisi a Datblygiad Trafnidiaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Cynlluniau Mynediad Cymunedol
Pecyn o fesurau a mentrau yw Cynllun Mynediad Cymunedol sy’n annog trigolion i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau lleol drwy gerdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a dibynnu llai ar y car ar gyfer teithiau lleol.
Mae grwpiau cymuned sydd wedi paratoi Cynllun Mynediad Cymunedol yn gymwys i gymryd rhan yn y broses o gynnig am nawdd Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau. Mae mwy o wybodaeth am Gynlluniau Mynediad Cymunedol ar gael gan y Tîm Polisi a Datblygiad Trafnidiaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Mae Canllaw i Gynlluniau Mynediad Cymunedol ar gael hefyd.
|