Beth yw Cynllun Teithio i’r Ysgol?
Dogfen neu ddatganiad yw Cynllun Teithio i’r Ysgol, sy’n nodi rhaglen o fesurau neu fentrau ar gyfer lleihau nifer y teithiau mewn cerbyd y mae plant, rhieni a staff yn eu gwneud i’r ysgol ac yn ôl, gan wella diogelwch personol ar y daith i’r ysgol.
Mae pob ysgol yn cael ei hannog i ddatblygu a gweithredu cynlluniau teithio i’r ysgol, gyda’r nod o:
- Leihau tagfeydd traffig o gwmpas ysgolion.
- Gwella diogelwch personol y disgyblion a’u rhieni ar y ffordd i’r ysgol ac yn ôl.
- Cynnig ffordd arall o deithio, i blant a’u rhieni.
- Lleihau’r risg o gael anaf mewn damwain.
- Gwella iechyd a ffitrwydd.
- Bodloni anghenion disgyblion ysgol drwy nodi problemau y maent yn eu hwynebu ar y daith i’r ysgol.
- Datblygu annibyniaeth a hunan hyder y disgyblion.
- Torri’r cylch lle mae rhieni yn ofni perygl oherwydd traffig - rhieni’n gyrru plant/disgyblion i’r ysgol - traffig yn cynyddu - rhieni yn ofni perygl rhag traffig.
Datblygu Cynllun Teithio i’r Ysgol
Er mwyn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu Cynlluniau Teithio i’r Ysgol eu hunain, rydym wedi paratoi dwy ddogfen o gyfarwyddyd, un ar gyfer ysgolion cynradd a’r llall yn canolbwyntio ar ysgolion uwchradd. Mae’r rhain ar gael trwy’r dolenni isod:
Canllaw Cynllun Teithio i’r Ysgol Gynradd
Canllaw Cynllun Teithio i’r Ysgol Uwchradd
Bwriad y wybodaeth yn y canllawiau hyn yw cynorthwyo ysgolion drwy’r broses o ddatblygu eu Cynllun Teithio i’r Ysgol. Ar y llaw arall, mae croeso i chi gysylltu â Kwaku Opoku-Addo ar (01656) 642510 i gael gwybodaeth, cymorth ac arweiniad ychwanegol ynglŷn â chreu cynllun teithio i’r ysgol.
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
Trwy ddatblygu Cynllun Teithio i’r Ysgol, gall eich ysgol gyflwyno cynlluniau i’w cynnwys yn rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
- Last Updated: 25/03/2010
- Rate this page
- Back to top







