Gwastraff Masnach
A wyddoch chi fod y cyngor yn cynnig amrywiaeth eang o gasgliadau gwastraff masnach am brisiau cystadleuol, gan ddarparu gwasanaeth cyflym a dibynadwy i bob rhan o’r fwrdeistref sirol? |
|
Dewis gwasanaeth sy’n briodol i chi
Eich busnes chi a’r gyfraith
Mae’r gyfraith amgylcheddol gyfredol yn gosod cyfrifoldebau penodol ar fusnesau o ran gwaredu gwastraff masnach. Mae’r dudalen hon yn esbonio’r gyfraith ac yn amlinellu sut y gall y cyngor eich helpu i fodloni ei gofynion.
Cyflwynwyd y Ddyletswydd Gofal dan adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Daeth y ddeddfwriaeth hon i rym ar 1 Ebrill 1992 ac mae’n berthnasol i unrhyw fusnes sy’n cynhyrchu, cario, cadw neu waredu gwastraff.
Dan y ddeddfwriaeth Dyletswydd Gofal, rhaid i fusnesau:
|
Wneud trefniadau i waredu gwastraff drwy sefydliad rheoli gwastraff awdurdodedig h.y. cludydd gwastraff cofrestredig. |
|
Atal gwastraff rhag dianc drwy ei gadw’n ddiogel. |
|
Mae torri’r Ddyletswydd Gofal yn drosedd a gallai busnesau sy’n cael eu dyfarnu’n euog o’r drosedd hon fod yn agored i dalu dirwy ddiderfyn. |
Tawelwch Meddwl
Oherwydd ei fod yn awdurdod lleol, mae gan y cyngor yr hawl i gasglu gwastraff masnach o fusnesau yn y fwrdeistref sirol ac mae’n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran casglu eich gwastraff.
Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn dawel eich meddwl o wybod eich bod wedi bodloni eich rhwymedigaethau o ran gwaredu eich gwastraff masnach.
Yn ogystal, mae ein profiad sylweddol a’n gwybodaeth leol yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth cyflym a hyblyg sydd wedi ei addasu i’ch anghenion unigol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i’n cwsmeriaid, sy’n golygu y gallwch gysylltu â ni am gyngor diduedd ar bob agwedd ar gyfraith gwastraff masnach.
Dewis gwasanaeth sy’n briodol i chi
Mae’r cyngor yn cynnig amrywiaeth o ddulliau casglu. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth sy’n addas i’ch busnes chi, ar gyfraddau cystadleuol.
Mae cynwysyddion ar olwynion ar gael mewn sawl gwahanol faint. Mae’r cynwysyddion yn gadarn ac yn dod gyda chaeadau y gellir eu cloi a system brêc. Mae’r cyngor yn codi tâl yn ôl maint y bin a nifer y casgliadau. Yn wahanol i lawer o gwmnïau rheoli gwastraff preifat, nid yw’r cyngor yn codi tâl am rentu cynwysyddion. Mae’r cynwysyddion ar olwynion yn addas ar gyfer busnesau mwy a thafarnau, bwytai a siopau bwyd lle y cynhyrchir gwastraff gwlyb neu wastraff bwyd.
Gellir prynu sachau masnach mewn amryw safleoedd ar draws y fwrdeistref sirol ac maent ar gael mewn pecynnau o 50. Dylid rhoi gwastraff masnach yn y sachau ar gyfer ei gasglu. Mae’r gwasanaeth hwn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau bach nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff. Nid oes unrhyw daliadau ychwanegol.
Dolenni defnyddiol
www.keepwalestidy.org
www.maygurney.co.uk
Sut i gysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth i gwsmeriaid ar (01656) 643443 neu anfonwch e-bost at cleanupthecounty@bridgend.gov.uk
- Last Updated: 10/01/2011
- Rate this page
- Back to top








