Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Camau gorfodi o ran sbwriel a baw cŵn

A wyddoch chi fod cŵn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynhyrchu mwy na 600 o dunelli o faw bob blwyddyn? Os nad oes ganddynt berchnogion cyfrifol, CHI, y trethdalwr, sy’n talu am ei lanhau.

Mae gan y cyngor wyth swyddog gorfodi erbyn hyn sy’n patrolio’r fwrdeistref sirol. Ydych chi am wybod mwy?

Bagiwch e’, Clymwch e’, BINIWCH E’!

A wyddoch chi?

Bagiwch e’, Clymwch e’, BINIWCH E’!

Mae’n ffaith rwystredig y gellid defnyddio’r arian sy’n cael ei wario ar lanhau baw cŵn yn well ar ddarparu gwasanaethau i bobl leol, pe byddai perchnogion cŵn yn fwy cyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Dyna pam y mae’r cyngor wedi lansio ymgyrch i fynd i’r afael â baw cŵn. Gan ddefnyddio’r slogan Bagiwch e’, Clymwch e’, BINIWCH E’! bydd y cynllun yn amlygu’r broblem o faw cŵn, yn atgoffa pobl o’r rheoliadau a’r cosbau cyfredol ac yn hybu mwy o gyfrifoldeb ymhlith perchnogion cŵn.

Mae unrhyw un sy’n gadael i’w gi wneud baw mewn man cyhoeddus heb ei lanhau yn agored i ddirwy o £100 ar unwaith, ac os byddwn yn eu herlyn, gallent wynebu dirwy fwyaf o £1,000.

A wyddoch chi?

Mae’n anghyfreithlon i adael i’ch ci wneud baw mewn man cyhoeddus heb ei lanhau. Gallech gael dirwy o £100 yn y fan a’r lle am beidio â glanhau ar ôl eich ci neu gael eich erlyn drwy’r llysoedd.

Mae tua 7 miliwn o gŵn yn y DU yn cynhyrchu 1,000 o dunelli o faw bob dydd.

Yn ogystal â bod yn annymunol ac yn boendod, gallech ddal Tocsocariasis o faw cŵn, a allai arwain at ddallineb, asthma a ffitiau epileptig.

Mae wyau tocsocara yn cymryd 2-3 wythnos i aeddfedu. Mae gwaredu baw cŵn ar unwaith yn atal hyn ac yn cyfyngu ar yr haint.

Y ffordd orau o godi baw cŵn yw trwy ddefnyddio bagiau cŵn neu fagiau plastig a’u rhoi mewn biniau sbwriel neu finiau baw cŵn, neu drwy fynd â’r bagiau adref a’u rhoi mewn bin y tu allan. Mae rhawiau baw ar gael hefyd yn y rhan fwyaf o siopau anifeiliaid anwes.

Cofiwch, nid yw peidio â bod yn ymwybodol o’r baw cŵn neu beidio â bod â modd o’i lanhau yn esgus dan y rheoliadau.