Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cerbydau sydd wedi eu Gadael

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynllun 'Bang Up Your Old Banger', mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau â’r cynllun amnest ceir sydd wedi eu gadael nes yr hysbysir yn wahanol.

Felly os oes gennych chi hen gar diolwg yr ydych eisiau cael gwared arno, nid yw’n rhy hwyr i adael i’r Cyngor ei gymryd oddi wrthoch, drwy ei gasglu a’i waredu yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch linell gymorth ‘Glanhau’r Sir’ y cyngor ar (01656) 643 443 i fanteisio ar y cynllun. Rhaid i berchnogion cerbydau ddarparu tystiolaeth mai hwy yw’r perchennog yn ogystal â phrawf adnabod personol.

Hysbysu am gerbydau yr ydych yn amau eu bod wedi eu gadael

I hysbysu am gerbyd yr ydych yn amau ei fod wedi ei adael, ffoniwch y cyngor ar (01656) 643 443 gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn i’w swyddogion allu dod o hyd iddo.

Os yw’n bosibl, rhowch:

Rif cofrestru’r cerbyd (os yw’n ddarllenadwy)

Lliw y cerbyd

Lleoliad y cerbyd

Bydd swyddog yn rhoi sticer ar y cerbyd a chynhelir chwiliad er mwyn ceisio dod o hyd i berchennog y cerbyd. Os na ellir dod o hyd i’r perchennog, bydd y cerbyd yn cael ei symud a’i ddinistrio wedi cyfnod.