Cynlluniau Argyfwng
Mae gan y Cyngor nifer o gynlluniau i helpu i sicrhau ei fod yn barod ar gyfer ystod eang o argyfyngau.
Caiff y cynlluniau hyn eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn gyfoes.
Cynllun Digwyddiadau Mawr
Mae’r Cynllun Digwyddiadau Mawr, a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol, yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau allweddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr os ceir argyfwng mawr. Mae’n disgrifio’r math o gymorth y gellid galw ar y Cyngor i’w ddarparu mewn digwyddiad mawr ac mae’n egluro protocolau ‘arfer gorau’ y dylid eu dilyn wrth ymateb i unrhyw argyfwng.
Dyma’r unig gynllun argyfwng sydd ar gael i’r cyhoedd ar hyn o bryd a gellir ei weld yn llawn gan ddilyn y ddolen isod:
Lawrlwytho’r Cynllun Digwyddiadau Mawr
Cynlluniau eraill
Cynlluniau Argyfwng y Cyfarwyddiaethau
Mae gan bob Cyfarwyddiaeth gynllun argyfwng sy’n dangos sut y bydd y cyfrifoldebau a nodir yn y Cynllun Digwyddiadau Mawr yn cael eu rhoi ar waith.
Cynlluniau Arbenigol
Cynllun Clefydau Heintus ar Anifeiliaid (sy’n cynnwys Clwy’r Traed a’r Genau, Y Gynddaredd, Twymyn Nîl a Ffliw Adar)
Rheoliadau Diogelwch Piblinellau
Maent yn nodi peryglon a achosir gan biblinellau nwy pwysig sydd wedi’u gosod yn y fwrdeistref sirol, camau gweithredu a gymerwyd i leihau’r risg a chamau gweithredu y mae’n rhaid eu cymryd os ceir argyfwng sy’n ymwneud â phiblinell bwysig.
Cynllun y Cyfryngau
Mae’r cynllun yn disgrifio’r trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i ymateb i ymwthiad sylweddol gan y cyfryngau o ganlyniad i ddigwyddiad mawr sy’n effeithio ar y fwrdeistref sirol.
Cynlluniau ar gyfer Canolfannau Gorffwys
Mae’r cynlluniau ar gyfer canolfannau gorffwys, a ategir gan hyfforddiant i staff ac adnoddau yn y fan a’r lle, yn darparu pecyn cymorth ar gyfer staff sy’n gyfrifol am sefydlu a rhedeg canolfannau gorffwys.
Cynlluniau Argyfwng mewn Ysgolion
Mae pob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol wedi cael templed ar gyfer cynllun i’w fabwysiadu yn yr ysgol. Mae’r cynllun yn ystyried ystod eang o argyfyngau a allai effeithio ar ysgol. Er bod yr amgylchiadau a ragwelir yn hynod annhebygol, mae systemau’n bodoli er mwyn helpu i sicrhau ymateb effeithiol.
Cynllun Adfer
Mae gan y Cyngor Gynllun Adfer sy’n egluro sut y byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu cymuned i ddod ati’i hun pe effeithid yn ddifrifol arni gan ddigwyddiad mawr megis llifogydd ar raddfa eang. Mae’r cynllun yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau ar gyfer timau dynodedig a fyddai’n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y broses Adfer megis canolbwyntio ar anghenion iechyd a lles neu wrando ar anghenion y gymuned neu atgyweirio isadeiledd a’r amgylchedd.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cynlluniau cysylltwch â’r Tîm Cynllunio at Argyfwng ar 01656 643300.
- Last Updated: 15/03/2010
- Rate this page
- Back to top







