Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Cludiant i’r Ysgol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn un o’r awdurdodau lleol mwyaf hael yn y DU o ran darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol/coleg ar gyfer disgyblion cymwys.

Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion i ddiwygio’r polisi ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol/coleg i’w gwneud yn bosib i arbedion o £800,000 y flwyddyn gael eu hailfuddsoddi yn y rhaglen moderneiddio ysgolion – mwy o wybodaeth.

Mae oddeutu 6,500 o blant yn cael eu cludo bob dydd i ysgolion cynradd, cyfun ac arbennig ac mae’r cludiant a ddefnyddir yn amrywio o dacsis i fysiau deulawr.

Ymgynghoriad ar y Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol
Polisi Cyfredol ar Gludiant i’r Ysgol

Datganiad Polisi Cludiant 16-19 2006-07

Diogelwch ar Gludiant i’r Ysgol

Lansio fideo diogelwch
Manylion cyswllt

Diogelwch ar Gludiant i’r Ysgol

Lle mae cludiant i’r ysgol yn y cwestiwn, diogelwch yw blaenoriaeth allweddol y Cyngor. Yn yr un modd â nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru, mae camymddwyn ar gludiant i’r ysgol yn broblem sy’n cael blaenoriaeth uchel iawn gennym.

Rydym yn mynd ati mewn ffordd ragweithiol iawn i hybu diogelwch ar gludiant i’r ysgol. Mae systemau teledu cylch cyfyng wedi cael eu gosod ar bron i 50% o’r bysiau a ddefnyddir i fynd â disgyblion i ysgolion. Caiff hebryngwyr a goruchwylwyr eu cyflogi hefyd ar lwybrau sy’n arbennig o drafferthus.

Mae pob gyrrwr a hebryngwr wedi cael bathodyn adnabod ac wedi derbyn hyfforddiant mewn ymdrin ag ymddygiad ymosodol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am gynlluniau eraill sy’n gysylltiedig â theithio i’r ysgol gan gynnwys mentrau diogelwch ar y ffyrdd, llwybrau diogel i’r ysgol, cynlluniau teithio i’r ysgol a’r patrol ar linellau igam-ogam.

Lansio fideo diogelwch

Mae fideo sy’n ymdrin â diogelwch ar fysiau’r Cyngor, ‘Eich Bywyd Chi Yn Eu Dwylo Nhw’ wedi ennill clod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cael cefnogaeth awdurdodau addysg lleol ledled Cymru ac wedi cael ei brynu gan ysgolion mor bell i ffwrdd â Chanada.

Mae’r fideo’n mynd i’r afael â phroblemau ymddygiad ar fysiau ysgol ac yn ceisio codi proffil cyfrifoldebau’r gyrwr. Gellir cael copïau o’r fideo trwy ffonio (01656) 642525 neu anfon neges e-bost i’r cyfeiriad canlynol: sarah.roberts@bridgend.gov.uk.

Mae gan rieni gyfrifoldeb hefyd, ac mae adran addysg y Cyngor wedi ysgrifennu at rieni’r holl ddisgyblion sy’n teithio ar gludiant i’r ysgol i ofyn am eu cefnogaeth.

Manylion cyswllt

Caiff cludiant i’r ysgol ei drefnu gan Uned Cludiant Integredig y Cyngor – a sefydlwyd i ymdrin â holl anghenion cludo teithwyr y Cyngor.

Gallwch gael mwy o wybodaeth trwy ffonio (01656) 642559 ar gyfer materion sy’n ymwneud â bysiau lleol a (01656) 642654 ar gyfer ymholiadau ynghylch cludiant i’r ysgol.