Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd

Mae magu plant yn dasg bwysig, ac weithiau’n dasg anodd. Mae ar bawb angen help a chyngor o bryd i’w gilydd. Gall Ymwelwyr Iechyd, athrawon ac aelodau o’r teulu i gyd ddarparu hyn ond weithiau mae angen cymorth ychwanegol.

Mae Gwasanaeth Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phlant a theuluoedd i ddarparu’r cymorth ychwanegol hwn.

Mae’r wybodaeth hon yn egluro sut y gallwn wneud hyn neu’r hyn y dylech chi ei wneud os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch plant eraill.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni, gofalwyr a’r holl asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant i wneud y canlynol:

darparu gwasanaethau a fydd o gymorth i blant mewn angen o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau,

diogelu plant ac arnynt angen cael eu hamddiffyn a

sicrhau’r deilliannau gorau posib i blant sy’n derbyn gofal.

Pwy ydym yn eu helpu?

Mae cyngor a gwybodaeth wastad ar gael i unrhyw un sy’n cysylltu â ni.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn helpu’r plant a’r teuluoedd sy’n profi’r angen mwyaf, felly ni ellir rhoi gwasanaeth i bawb sy’n gofyn i ni am help.

Er mwyn ein helpu i benderfynu ar bwy y mae angen ein gwasanaethau fwyaf, rydym yn defnyddio meini prawf cymhwyster. Mae copi o’r rhain a’r mathau o bethau a ddarperir gennym ar gael os gofynnir.

Ein blaenoriaethau wrth ddarparu gwasanaethau yw plant/pobl ifanc ag anghenion difrifol – y rheiny y byddai eu cyfleoedd mewn bywyd yn cael eu lleihau’n sylweddol heb wasanaethau gennym ni. Mae hyn yn cynnwys:

plant ag anableddau

plant/pobl ifanc yr ydym yn gofalu amdanynt (mewn gofal)

pobl ifanc sy’n camu ymlaen (yn gadael gofal)

plant/pobl ifanc sydd mewn perygl o gael camdriniaeth.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cysylltu â’r gwasanaeth Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd ynghylch fy mhlentyn fy hun?

Pan fyddwch yn ffonio neu’n ymweld â’n swyddfa, fe gewch eich trosglwyddo i weithiwr cymdeithasol sydd ar ddyletswydd.

Bydd y gweithiwr cymdeithasol sydd ar ddyletswydd yn gofyn i chi am fanylion sylfaenol amdanoch chi a’ch plant a bydd yn gallu dweud wrthych a allwn helpu ai peidio neu awgrymu ffyrdd eraill o gael yr help y mae arnoch ei angen.

Efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth am eich amgylchiadau ac efallai y bydd angen i ni gysylltu â phobl eraill i gael gwybodaeth. Caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â chael help.

Pa mor fuan allaf ddisgwyl cael help?

Bydd yr amser a gymer i chi gael help yn dibynnu ar y broblem, a pha mor daer ydyw.

Os yw plentyn/person ifanc mewn perygl o niwed difrifol, byddwn yn dechrau gwneud ymholiadau’n syth i sicrhau ei f/bod yn ddiogel. Ym mhob achos arall, byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol o’r hyn y mae’i angen o fewn saith diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi bryd hynny beth sy’n debygol o ddigwydd nesaf.

Beth os oes gennyf bryderon ynghylch plant eraill?

Pan fyddwch yn ffonio neu’n ymweld â’n swyddfa cewch eich trosglwyddo i weithiwr cymdeithasol sydd ar ddyletswydd. Byddwn yn gofyn i chi am eich enw a’ch cyfeiriad. Byddwn yn gwneud hyn rhag ofn bod angen i ni gysylltu â chi eto ac er mwyn i ni allu rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn ymdrin â’ch pryderon. Byddwn yn parchu cyfrinachedd unigolion.

A ydych yn fodlon ar y gwasanaeth yr ydym yn ei roi?

Rydym yn gobeithio y byddwch yn fodlon ar y gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn gennym. Rydym wastad yn falch o dderbyn sylwadau ac awgrymiadau am ffyrdd y gallem wella.

Os nad ydych yn fodlon am unrhyw reswm, dylech yn y lle cyntaf drafod hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol a’i reolwr ef neu’i rheolwr hi.

I gael mwy o wybodaeth gallwch gasglu ein taflen gwynion o’r swyddfa Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd yn y cyfeiriad isod, neu gallwch anfon neges e-bost atom yn: childrenscomplaints@bridgend.gov.uk

neu lawrlwytho copi o’n taflen gwynion.

Cysylltu â Ni

I gael mwy o wybodaeth am Ddiogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd cysylltwch â:

Diogelu Plant a Chymorth i Deuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Sunnyside

Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 4AR

Ffôn (01656) 643643