Amddiffyn Plant – Cyngor i aelodau o’r cyhoedd
Mae’r holl gyrff cyhoeddus a gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i ddiogelu lles plant a phobl ifanc ac yn dibynnu ar aelodau o’r cyhoedd i roi gwybod iddynt am bryderon.
Os ydych chi’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin; neu os bydd plentyn yn dweud wrthych ei fod yn cael ei gam-drin; neu os byddwch yn derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu bod unrhyw oedolyn yn cam-drin plentyn, dylech ddilyn y cyngor isod.
Os bydd rhywun yn dweud wrthych ei fod ef/ei bod hi neu blentyn neu berson ifanc arall yn cael ei g/cham-drin:
Ø Dangoswch eich bod yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud, a’ch bod yn cymryd ei honiadau o ddifrif.
Ø Eglurwch pa gamau gweithredu y mae’n rhaid i chi eu cymryd.
Ø Ysgrifennwch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan ddefnyddio’r union eiriau os yn bosib.
Ø Sicrhewch fod y pryderon yn cael eu gwneud yn hysbys ar unwaith i’r Gweithiwr Cymdeithasol sydd ar Ddyletswydd yn eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, neu’r Heddlu neu’r Gweithiwr Cymdeithasol sydd ar Ddyletswydd mewn Argyfwng
Ø Peidiwch â mynd at y cam-driniwr honedig i holi ynghylch y cyhuddiadau
Os yw ymddygiad aelod o’r cyhoedd tuag at blant neu bobl ifanc yn achosi pryder ichi:
Ø Peidiwch â diystyru eich pryderon
Ø Sicrhewch fod y pryderon yn cael eu gwneud yn hysbys ar unwaith i’r Gweithiwr Cymdeithasol sydd ar Ddyletswydd yn eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, neu i’r Heddlu neu i’r Gweithiwr Cymdeithasol sydd ar Ddyletswydd mewn Argyfwng
Ø Ysgrifennwch yr hyn sydd wedi achosi pryder ichi gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a phwy arall oedd yn bresennol
Ø Peidiwch â mynd at y person y mae gennych bryderon yn ei g/chylch
Mae’n bwysig cofio
Ø Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb am sicrhau bod plant sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.
Ø Ni ddylech byth gymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn sylwi ac yn rhoi gwybod pan fo plant mewn perygl.
Ø Mae gan bawb sy’n hysbysu ynghylch eu pryderon hawl i gael eu sicrhau y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r pryderon hyn
 phwy y dylech gysylltu:
Y Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Isadran Plant a Theuluoedd
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642320
Yr Heddlu
Uned Amddiffyn Plant
Gorsaf Heddlu Llangrallo
Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 651 660
Ni ddylech byth oedi cyn trosglwyddo eich pryderon i rywun sydd mewn sefyllfa i weithredu ymhellach arnynt a sicrhau y cynhelir ymchwiliad priodol. Byddwch wastad yn cael eich cymryd o ddifrif. Mae gan yr Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wasanaeth 24awr.
Peidiwch â phoeni eich bod o bosib wedi gwneud camgymeriad. Mae’n well eich bod wedi trafod y mater gyda rhywun sydd â’r profiad a’r cyfrifoldeb i asesu’r sefyllfa.
Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gewch, neu os bydd y plant yn dal i fod mewn perygl a’i bod yn ymddangos na fu unrhyw gamau gweithredu neu eich bod heb gael eglurhad, gwnewch ymholiadau dilynol trwy gysylltu â’r sawl sy’n ymdrin â’r mater. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon dylech gysylltu â’r Cydlynydd Amddiffyn Plant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol – 01656 642200
- Last Updated: 04/03/2010
- Rate this page
- Back to top







