Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Ffocws Ar Blant a Phobl Ifanc

Cynllun Gweithredu Teuluoedd Yn Gyntaf

Rhaglen genedlaethol 5 mlynedd yw ‘Teuluoedd yn Gyntaf’, a ddatblygwyd fel ymateb allweddol i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Rhaglen arloesi yw Teuluoedd yn Gyntaf sy’n hybu datblygiad systemau a chymorth amlasiantaethol effeithiol mewn ardaloedd awdurdodau lleol, gyda phwyslais eglur ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer teuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi.

Mae’r egwyddor o ddatblygu a gweithredu dull integredig o weithio yn rhan annatod o’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Bydd y Rhaglen yn cael ei rhoi ar waith yn lleol trwy Gynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr, y gellir ei weld trwy’r ddolen isod.

Ymgyunghoriadau cyfredol

Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-11

Mae’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-11 wedi cael ei gynhyrchu. Gallwch weld crynodeb o’r cynllun gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Mae’r crynodeb yn disgrifio ein blaenoriaethau ac yn amlinellu ein syniadau a’n cynigion i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael pob cyfle i ffynnu a llwyddo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n darparu cyd-destun ar gyfer cynllunio a chyflenwi gwasanaethau i blant a phobl ifanc 0 -19 mlwydd oed, ynghyd â rhai sy’n gadael gofal hyd at 21 mlwydd oed (neu’n uwch os ydynt yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant) a’r rheiny sy’n derbyn gwasanaethau cymorth ieuenctid (sy’n cyfateb i’r ystyr yn Adran 123 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000) hyd at 25 mlwydd oed. Mae’r Bartneriaeth yn gweithio’n unol â’r saith nod craidd, sef y dylai’r holl blant a phobl ifanc gael pob cyfle i wneud y canlynol:

dechrau’n deg mewn bywyd

   

hynny yw

     

cael eu geni’n iach i deulu cadarn a chefnogol

 

cael mynediad at gyfleoedd addysg priodol

   

hynny yw

     

gallu gwireddu eu potensial fel dysgwyr

 

bod yn iach ac yn rhydd rhag cael eu hecsbloetio

   

hynny yw

     

bod yn unigolion iach a diogel, sy’n rhydd rhag cael eu hecsbloetio gan bobl eraill

 

cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol

   

hynny yw

     

gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau, ni waeth beth fo’u sgiliau a’u gallu

 

cael gwrandawiad a chael eu trin â pharch

   

hynny yw

     

gallu cael llais ymhob penderfyniad sy’n effeithio arnynt, a deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau

 

byw mewn cartref a chymuned sy’n ddiogel

   

hynny yw

     

bod yn ddiogel a chael cefnogaeth emosiynol dda o fewn eu cartref a’u cymuned leol

 

peidio â dioddef anfantais oherwydd tlodi

   

hynny yw

     

ffynnu a dod yn bobl hyderus a gofalgar, ni waeth beth fo incwm eu teulu

       

Yn 2005 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Harweiniad (i Ddeddf Plant 2004), ‘Hawliau ar Waith’ a oedd yn nodi’r hyn yr oedd Partneriaethau ledled Cymru wedi’i gyflawni ac yn amlinellu dull cenedlaethol o ddatblygu polisi, gwella gwasanaethau a dangos y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc.

Mae’n ofynnol i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc baratoi’r cynllun sengl Plant a Phobl Ifanc cyntaf gan nodi eu blaenoriaethau ar gyfer 2008 – 2011.

Mae ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd mewn perthynas â’r cynllun hwn. Mae’r Bartneriaeth yn awyddus i glywed gan bawb ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn enwedig gan blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr. I’ch helpu gyda’ch sylwadau ceir ffurflenni adborth ymgynghori ar dudalennau 21 – 23 o Gynllun Drafft Plant a Phobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr 2008-11.

Gellir lawrlwytho’r cynllun ar ffurf ffeil PDF ar ben y dudalen hon.

Neu anfonwch eich sylwadau trwy’r post i:

Rhadbost

Cynllun Sengl y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc

3ydd Llawr

Tŷ Derwen

Heol y Llys

Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 1BN

Neu drwy ffacs i 01656 750736

Neu drwy’r e-bost i cypplan@bridgend.gov.uk


Mwy am y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Bu i Ddeddf Plant 2004 hefyd wneud y Bartneriaeth yn gorff statudol gan nodi pwy y mae angen eu cynnwys fel aelodau.

Mae aelodau’r Bartneriaeth yn cynnwys:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Aelodau a Swyddogion)

Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (Aelodau a Swyddogion)

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Aelodau a Swyddogion)

Y Tîm Troseddau Ieuenctid

Heddlu De Cymru

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn cydweithio’n agos gyda Phartneriaethau eraill, a chaiff ei monitro gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, fel a ddangosir isod.