- Home >
- Cludiant Cymunedol
Cludiant Cymunedol
|
Mae Cludiant Cymunedol yn rhoi cyfle i deithio i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus confensiynol, neu rai sy’n byw mewn ardal heb wasanaeth cludiant cyhoeddus rheolaidd, neu rai ag anabledd.
Gall pobl ei ddefnyddio hefyd os oes rhesymau cymdeithasol yn eu rhwystro rhag manteisio ar wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus sylfaenol, megis gofal iechyd.
Mae gweithlu o wirfoddolwyr ymroddgar yn rhoi eu hamser i gynorthwyo eraill i ddarparu gwasanaethau cludiant. Mae pob cynllun yn gweithredu yn y modd sydd fwyaf addas i’r ardal a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae un cynllun Cludiant Cymunedol yn gweithredu yn y fwrdeistref sirol, ac mae’r manylion isod:
|
Dolenni Cyflym
|
|

|
|

|
|
|
OTED (Ogwr Transport for the Elderly or Disabled)
Mae OTED yn elusen gofrestredig sy’n darparu cludiant o ddrws i ddrws i bobl sydd wedi eu cofrestru gyda’r elusen. Mae OTED yn cynnig dewis arall i’r bobl hynny nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus arferol. Nod yr elusen yw hybu cymorth ar gyfer pobl hen, eiddil, sâl neu anabl o unrhyw oed, sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr/Ogwr er mwyn gwella eu hamodau byw drwy ddarparu cludiant.
Cysylltwch ag OTED ar 01656 669665 i gael mwy o wybodaeth.