Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Beth yw Sewta?


Consortiwm yw Sewta (Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru) a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2003 gan y 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae Sewta yn un o bedwar consortiwm trafnidiaeth yng Nghymru a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n gweithio i ddatblygu polisïau trafnidiaeth strategol, gwella’r isadeiledd a newid agweddau pobl tuag at drafnidiaeth.

Mae’r awdurdodau lleol canlynol yn aelodau o Sewta:

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ø Cyngor Caerdydd

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Ø Cyngor Sir Fynwy

Ø Cyngor Dinas Casnewydd

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ø Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

Fel aelod o Sewta, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud cyfraniad allweddol at y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Mae’r consortia llywodraeth leol yng Nghymru wrthi’n datblygu system o Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a bydd y rhain yn cefnogi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’i Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, a’r Strategaethau rhanbarthol unigol ar gyfer y gwahanol ddulliau trafnidiaeth sy’n ei gefnogi, yn nodi’r polisïau a’r prosiectau trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth. Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hefyd yn cynnwys rhaglen pum mlynedd o gynlluniau trafnidiaeth a fydd wedi eu lleoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu a fydd yn effeithio arni. Daw’r Cynllun i rym ym mis Ebrill 2010.

Mae copïau o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y strategaethau rhanbarthol unigol a chofnodion cyfarfodydd Bwrdd Sewta ar gael ar www.sewta.gov.uk. Ceir mwy o wybodaeth am Sewta drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

Manylion Cyswllt


Colin Eades

Ysgrifennydd
Sewta
Tŷ Gwent
Lakeview
Llantarnam
Cwmbrân
NP44 3HR

Ffôn: 01633 876345
E-bost:mail@sewta.gov.uk