Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Hebryngwyr Croesfannau Ysgol

Mae swydd Hebryngwr Croesfan Ysgol yn werth chweil ac yn rhoi boddhad. Swydd ran-amser yw hon, yn ystod y tymor yn unig, ac mae’r oriau yn amrywio o gyn lleied â 3 awr 45 munud yr wythnos i 18 awr 45 munud yr wythnos yn dibynnu ar ofynion pob lleoliad unigol, a bydd yn cynnwys bod ar ddyletswydd yn y bore, weithiau yn ystod amser cinio, a phan fydd y plant yn gadael yr ysgol i fynd adref yn y prynhawn.

Pa fath o unigolyn sydd fwyaf addas ar gyfer y swydd hon?

Mae’r gwasanaeth yn chwilio am unigolion prydlon, gonest a dibynadwy sydd â diddordeb gwirioneddol mewn diogelwch plant.

A oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y swydd hon?

Nac oes – mae synnwyr cyffredin ac ymarferol yn bwysicach ar gyfer Hebryngwr Croesfan Ysgol. Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, y gallu i farnu cyflymder cerbydau a phellter traffig sy’n agosáu, a dealltwriaeth o bellter stopio cerbydau ym mhob math o dywydd.

Mwy o wybodaeth

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn Hebryngwr Croesfan Ysgol, neu sydd am gael mwy o wybodaeth am y swydd, ffonio Simon Ladbrooke ar (01656) 642529 neu anfon e-bost at roadsafety@bridgend.gov.uk