Llwybrau mwy diogel i’r ysgol
Mae’r fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) sy’n annog y defnydd o fathau cynaliadwy o gludiant ar gyfer pob siwrnai, yn enwedig y daith i’r ysgol ac yn ôl. Nod y fenter yw annog plant ysgol i gerdded a beicio i’r ysgol trwy wneud llwybrau i’r ysgol ac yn ôl yn fwy diogel. Mae’r fenter yn canolbwyntio ar fesurau rheoli traffig a diogelwch ar y ffyrdd sy’n helpu i leihau cyflymder cerbydau a llif traffig ar hyd llwybrau i’r ysgol, a mesurau cyffredinol sy’n lleihau’r defnydd o geir i gludo plant i’r ysgol ac yn annog pobl i gerdded a beicio. Mae LlCC yn mynnu bod ysgolion yn datblygu Cynlluniau Teithio i’r Ysgol sy’n darparu fframwaith cydlynol ar gyfer hyrwyddo mesurau Llwybrau Diogel i’r Ysgol.
Mae’r Cyngor wedi darparu arian ar gyfer cynlluniau Llwybrau Diogel i’r Ysgol yn y Fwrdeistref Sirol o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ers 1999. Mae LlCC yn mynnu bod Cynllun Teithio i’r Ysgol yn cael ei gyflwyno gyda phob cais am arian dan y Grant Trafnidiaeth Llwybrau Diogel i’r Ysgol.
- Last Updated: 19/02/2010
- Rate this page
- Back to top







