Diogelwch ar Fysiau
Mae fideo ac adnodd dysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n dysgu plant am bwysigrwydd ymddwyn yn dda wrth deithio ar fysiau ysgol, yn cael eu defnyddio yn ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fe'u dosbarthwyd yn eang ymhlith ysgolion ledled Cymru, Lloegr a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.
Enw’r fenter yw Your Life in Their Hands, ac mae hefyd yn cynnwys gemau cyfrifiadur a chardiau ar gyfer disgyblion sy'n gadael addysg gynradd ac sydd ar fin dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Mae'r fideo, sy'n ddwyieithog ac a wnaed gan athrawon a disgyblion lleol o Ysgol Gyfun Porthcawl ac Ysgol Gyfun Llanhari, yn canolbwyntio ar ganlyniadau tynnu sylw'r gyrrwr. Ei nod yw annog disgyblion i ofyn cwestiynau ac ystyried effeithiau posib camymddwyn ar y bws ysgol.
Yn y cyfamser, mae'r gemau cyfrifiadur a chardiau yn gofyn i chwaraewyr nodi pethau a allai dynnu sylw ar daith arferol ar y bws ysgol, ar y bws ei hun a’r tu allan ar y stryd brysur, gan bwysleisio'r neges os oes rhaid i yrwyr wylio'r hyn sy'n digwydd ar y bws, ni allant gadw eu llygaid ar y ffordd bob amser.
- Last Updated: 19/02/2010
- Rate this page
- Back to top







