Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Diogelwch ar Feiciau Modur

Pam ddylech chi ddarllen y cyngor hwn?

Mae beic modur neu sgwter yn gallu bod y ffordd gyflymaf i deithio o A i B, fel y gŵyr unrhyw un sy’n eu reidio. Mae’r profiad o’u reidio hefyd yn wefreiddiol, ac mae’r gair yn lledaenu - mae mwy a mwy o bobl yn dechrau beicio modur. Ond gan fod cymaint o draffig o gwmpas heddiw, mae’n bwysicach nag erioed i chi allu ymdopi â’r annisgwyl.

Pa un a ydych chi’n reidio i’r gwaith, yn feiciwr brwd sy’n reidio bob dydd neu’n mynd am dro ar eich beic ar ddiwrnod heulog – gofalwch nad yw’n digwydd i chi.

Sgiliau reidio

MAE’N RHAID I CHI FOD YN DDA i gadw allan o drafferth.

Os ydych chi eisoes yn dda, gwnewch eich hun yn well. Mae’r beicwyr modur gorau yn reidio’n amddiffynnol fel eu bod yn llai tebygol o gael damwain. Mae’r rhai sydd â sgiliau amddiffynnol da mewn rheolaeth, ac felly maent yn gallu ymlacio mwy wrth reidio.

Gofalwch eich bod yn gwneud y canlynol:

Bydd gyrwyr eraill yn eich cythruddo weithiau. Ond os byddwch yn ymddwyn yn ymosodol mae’n bosibl y byddwch yn gorfod talu’r pris. Cyfrwch i 10 a llongyfarch eich hun ar eich pwyll. Waeth pa mor gryf yw’r temtasiwn, peidiwch â rasio ar ffyrdd cyhoeddus. Cadwch hynny ar gyfer y trac rasio.

Yr hyn y dylech ei wisgo

Prynwch yr offer cywir cyn i chi fynd ar eich beic modur.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Sicrhewch nad yw eich fisor yn fudr nac wedi’i grafu a chofiwch beidio â gwisgo fisor arlliwedig na gogls yn y nos.