Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643 <
Testun: 01656 643644
Ffacs: 01656 668126
E-bost: talktous@bridgend.gov.uk

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am - 5.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Beth yw Datblygu Cynaliadwy?

Dyma ddiffiniad o ddatblygu cynaliadwy a dderbynnir yn rhyngwladol:

Datblygiad sy’n bodloni anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwythau”.

Yn fyd-eang, nid ydym hyd yn oed yn bodloni anghenion cenedlaethau’r presennol heb sôn am ystyried anghenion y dyfodol.

Mae popeth a wnawn, boed hynny fel unigolion, cymunedau neu yn ein gweithle, yn cael effaith ar ein hamgylchedd, pa un yw’r effeithiau hynny’n cael eu teimlo yn ein hamgylchedd cyfagos neu ar ochr arall y byd.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn llifogydd a thywydd poeth oherwydd y newid yn yr hinsawdd, salwch o ganlyniad i lygredd, mynyddoedd cynyddol o wastraff a disbyddiad ein hadnoddau naturiol.

Er mwyn arafu ein heffaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd a lles pobl ar draws y byd, mae angen i ni i gyd ddysgu i addasu er mwyn i ni ystyried yr effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy’n gysylltiedig â phopeth a wnawn.

Oni bai ein bod yn dechrau gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at fynd i’r afael â’r materion hyn, rydym i gyd yn wynebu dyfodol sy’n llai sicr. Mae angen i ni symud yn bendant tuag at ddatblygu cynaliadwy oherwydd mai dyma’r peth iawn i’w wneud – ac oherwydd ei fod er ein lles gorau ni yn y tymor hir.

Beth sy’n rhan o Ddatblygu Cynaliadwy?
Mae Datblygu Cynaliadwy yn ymwneud â nifer o faterion megis y newid yn yr hinsawdd, gwastraff, ynni, trafnidiaeth, byw’n iach, bioamrywiaeth, diogelwch cymunedol, bwyd organig a lleol, cyfle cyfartal, cynllunio a dylunio adeiladau, llywodraethu da, llygredd, gwyddoniaeth gyfrifol a llawer mwy. Mae hefyd yn ymwneud â sut yr ydym yn ymateb i heriau cynaliadwyedd a sut y mae hyn yn effeithio ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Yn y pen draw, y nod yw ceisio sefydlu cymuned gynaliadwy.

Beth yw cymuned gynaliadwy?
Cymuned gynaliadwy yw cymuned ddiogel, gynhwysol, wedi’i chynllunio’n dda sy’n cynnig cyfle cyfartal a gwasanaethau da i bawb. Mae’n fan lle y mae pobl yn dymuno byw a gweithio ynddo, yn awr ac yn y dyfodol, a lle y mae anghenion amrywiol preswylwyr y presennol a’r dyfodol yn ystyriol o’r amgylchedd ac yn cyfrannu at fywyd o ansawdd uchel.

Mae’n swnio’n dda! Pryd gallwn ni symud i mewn?
Er mwyn i ni fod yn gymuned wirioneddol gynaliadwy, mae angen i ni ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear, sefydlu cymdeithas hapus, iach a theg, system llywodraethu dda ac economi gynaliadwy tra ein bod yn defnyddio gwyddoniaeth yn gyfrifol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol:

Y Tîm Datblygu Cynaliadwy

Yr Uned Cymorth Busnes

Y Gyfarwyddiaeth Gymunedau

Swyddfeydd Dinesig

Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 4WB

Mike Jenkins

Prif Swyddog Datblygu Cynaliadwy

Michael.jenkins@bridgend.gov.uk

01656 643179

Zoe Livermore

Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy

Zoe.livermore@bridgend.gov.uk

01656 643163

Esther Foster

Swyddog Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)

Esther.foster@bridgend.gov.uk

01656 643179