Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC) Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r tudalennau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer ein partneriaid sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Croeso i dudalennau gwe Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC) Pen-y-bont ar Ogwr.
Sefydlwyd Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2004. Nod y bartneriaeth yw hyrwyddo ethos Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef ‘un sector – un gweithlu’ sy’n meddu ar y sgiliau a’r cymwysterau priodol.
Aelodaeth
Mae aelodaeth o’r bartneriaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael i unrhyw sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o’r sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cliciwch yma i gwblhau ffurflen gofrestru PDGGC Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r manteision i aelodau’n cynnwys:
- Mynediad at gyrsiau / rhaglenni hyfforddi
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau’r bartneriaeth
- Derbyn post-dafliadau a chylchlythyrau sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yn y sector yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
Trefniadau’r Bartneriaeth
Caiff trefniadau’r bartneriaeth eu cydlynu gan grŵp strategol gweithredol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector.
Ceir copi o’r Amodau Gorchwyl yma
Mae’r grŵp strategol yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu Cynllun Strategol Pum Mlynedd sydd ar sail dreiglol.
Digwyddiadur
Partneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol - Rhaglen Dysgu a Datblygu’r 2011-2012
Cynrychiolwyr y Sector
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r sector gofal cymdeithasol. Os hoffech gysylltu ag un o gynrychiolwyr y sector, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Enw |
Maes Gwasanaeth |
Rhif Ffôn |
Christina Hall |
Gofal Cartref |
01656 789090 |
Helen Pitt |
Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr |
01656 658479 |
Sian Jenkins |
Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr |
01656 729191 |
Edward Beach |
Addysg |
01656 302368 |
Brian West |
Fforwm Gofal Cymru |
029 2051 3162 |
Clive Richards |
Gofalwr Maeth |
01656 642349 |
Roxanne Dacey |
Y Trydydd Sector |
01656 810400 |
Chwarae Rhan
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i wybod mwy am waith y Bartneriaeth neu os hoffech chwarae rhan, cysylltwch â:
Jayne Cross Jayne.Cross@bridgend.gov.uk neu
Rhys Williams Rhys.Williams@bridgend.gov.uk
Gallwch hefyd ffonio Tîm Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 01656 643228.
- Last Updated: 11/05/2012
- Rate this page
- Back to top








